Dwyn beiciau cwad ar gynnydd yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
beic cwad

Mae ffermwyr yng Ngheredigion yn galw am wneud mwy i atal troseddau wrth i'r nifer o feiciau cwad sy'n cael eu dwyn yn y sir gynyddu.

Yn Nhal-y-bont, Bontgoch, Llandre, Ponterwyd a Bethania mae 'na feiciau modur wedi cael eu dwyn dros yr wythnosau diwethaf gyda rhai ffermwyr yn cael eu targedu mwy nag unwaith.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae nhw wedi "yn deall y pryderon yn llawn".

Mae un cwmni yswiriant yn dweud nad yw'r heddlu yn rhoi digon o flaenoriaeth i'r troseddau yma.

'Beic am oes'

Mae Gerallt Evans yn ffermio yn Nol-y-bont ger Borth ac fe gafodd ei feic cwad ei ddwyn ar noson yr etholiad cyffredinol.

Meddai: "Roedd y beic yna wedi bod yn ffyddlon i fi, wedes i wrth brynu fe 'mae hwn yn feic am oes', ac mi fydde fe wedi bod.

"Dyn wedi gweithio am ei bethau, a rhywun fel hyn yn dwyn ei eiddo fe. Dwi wedi gweithio blynyddoedd i gael y pethau yma a mae rhywun yn dod yma liw nos ac yn mynd â nhw."

"Beiciau cwad sy'n cael eu lladrata mwy nag unrhyw eitemau eraill oherwydd eu nodweddion ysgafn a'u maint," yn ôl cwmni yswiriant NFU Mutual.

Mae undeb y ffermwyr yn dweud bod peiriannau, offer fferm a da byw hefyd yn eitemau sy'n cael eu targedu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd beic Gerallt Evans ei ddwyn noson yr etholiad cyffredinol

Yng Ngheredigion, mae swyddfa NFU Mutual wedi gweld cynnydd mewn ceisiadau yswiriant, ac yn galw am wneud mwy i atal y broblem.

Mae Rhys Davies, swyddog gyda NFU Mutual Gogledd Ceredigion, yn dweud y gallai plismyn roi mwy o flaenoriaeth i'r troseddau.

Dywedodd: "Mae'r heddlu'n gyndyn i edrych i mewn i'r achosion yma'n rhy bell achos bod y siawns o ddod o hyd i'r cerbydau yma'n isel iawn. Dydy'r heddlu ddim yn rhoi blaenoriaeth i'r math yma o ddwyn.

"Oes, mae'n rhaid i'r heddlu bwyso a mesur adnoddau ond mae angen tîm mwy rhagweithiol mewn lle i ddelio gyda'r troseddau gwledig."

'Gwell dealltwriaeth'

Yn y cyfamser, bydd gwaith ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n wynebu cefn gwlad.

Bydd y gwaith hefyd yn ceisio cael barn ffermwyr ar agwedd yr heddlu tuag at achosion o ddwyn o ffermydd a'u hymddiriedaeth yn eu cymunedau lleol, yr heddlu a'r system gyfreithiol.

Bydd y canfyddiadau'n sail i ddatblygu camau newydd gan Heddlu Dyfed Powys i daclo troseddu mewn ardaloedd gwledig a darparu cyngor i ffermwyr ar y ffordd orau i roi gwybod am ladrad fferm.

Dywedodd y Seicolegydd Troseddol Dr Gareth Norris: "Mae'r astudiaeth hon wedi cael ei chynllunio i gael gwell dealltwriaeth o wir faint troseddu mewn ardaloedd gwledig a'r heriau sy'n wynebu'r gymuned amaethyddol a'r heddlu.

"Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio'r modd y mae troseddau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hadrodd a'u cofnodi yn y dyfodol, ac yn tynnu sylw at ddifrifoldeb y broblem o droseddau yng nghefn gwlad."

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Llywelyn yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys

Cafodd y gwaith ymchwil ei gomisiynu ar y cyd gyda Chomisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn.

Dywedodd: "Dyma'r ardal blismona fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Bydd yr arolwg hwn yn cefnogi Heddlu Dyfed Powys drwy ein galluogi i ddeall y pwysau unigryw sy'n wynebu ardaloedd gwledig, ac yn arbennig y troseddau a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar amaethyddiaeth.

"Bydd hefyd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n bodloni'r gofynion hyn yn effeithlon.

"Yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, rwy'n ymroddedig i ymgysylltu'n rheolaidd â phob cymuned drwy ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau o fewn prifysgolion lleol i gefnogi hyn, ac yn annog pobl i gymryd rhan er mwyn rhoi gwybod i ni am y materion hyn."

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Robin Mason o Heddlu Dyfed Powys: "Mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymrwymo i wasanaethu cymunedau gwledig a bydd canlyniadau'r arolwg yn mynd fewn i'n strategaeth plismona i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig y gefnogaeth gywir.

"Hoffwn gymryd y cyfle yma i atgoffa pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac i'w cynorthwyo i beidio bod yn ddioddefwyr trosedd.

  • Gwnewch yn sir bod offer drud dan glo

  • Angen ystyried gosod Camerâu CCTV

  • Byddwn yn wyliadwrus o bobl ddieithr ar eich tir.

"Dwi'n annog pawb i adrodd unrhyw weithgaredd anghymdeithasol neu droseddol i'r Heddlu yn syth, er mwyn i ni gael ymchwilio'n llawn cyn gynted a phosib."