Dŵr Cymru yn buddsoddi £34m yn eu gwasanaethau
- Cyhoeddwyd
Bydd £34m o arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau Dŵr Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y cwmni bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd ar yr incwm isaf.
Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i adfer cronfeydd dŵr yng Nghaerdydd ac i adnewyddu hen bibellau dŵr yfed.
Mae'r arian yn ychwanegol i'r £32m wnaeth y cwmni nid-er-elw fuddsoddi'r llynedd.
Cafodd Dŵr Cymru ymgynghoriad gyda mwy na 12,000 o'i gwsmeriaid cyn penderfynu sut oedden nhw am fuddsoddi'r arian.
Dangosodd yr ymgynghoriad hwnnw fod pobl eisiau iddynt ariannu prosiectau cymunedol a pharhau i fuddsoddi yn eu gwasanaethau.
Cynlluniau Dŵr Cymru:
£5m i leihau biliau'r rhai ar incwm isaf;
£10m er mwyn newid hen bibellau dŵr yfed mewn ardaloedd fel Ynys Môn a Chwm Rhondda;
£5m i adfer cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen - bydd rhywfaint o'r £5m hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella dibenion hamdden a bioamrywiaeth mewn sawl cronfa ddŵr yng Nghymru ac i foderneiddio canolfannau ymwelwyr;
£5m i wneud gweithfeydd trin dŵr yn fwy abl i oresgyn tywydd eithafol fel llifogydd.
Canlyniadau ariannol
Mae'r cwmni hefyd wedi cyhoeddi ei ganlyniadau ariannol ar gyfer y flwyddyn.
£313m oedd ei gostau gweithredol, gyda'i golledion cyfrifo yn £36m a'i buddsoddiad cyfalaf yn £350m.
Mae'r buddsoddiad hwnnw yn rhan o gynllun buddsoddi pum mlynedd gwerth £1.7bn rhwng 2015 a 2020.
Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones fod y model nid-er-elw yn gweithio, a bod hynny i weld yn y buddsoddiad ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi.
"Rydyn ni'n gwybod bod gan ein cwsmeriaid ddisgwyliadau uchel am y gwasanaethau a ddarparwn - a'r un pryd maent am i ni amddiffyn a chyfoethogi'r byd o'n cwmpas a chadw biliau'n fforddiadwy," meddai.
"Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi parhau i gadw'r cydbwysedd yma dros y 12 mis diwethaf."