Galw ar gymorth i ofalwyr 'fod yn uwch ar yr agenda'

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, SPL

Mae cefnogaeth i ofalwyr "wedi llithro i lawr agendâu lleol", yn ôl Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Dywedodd yr arolygiaeth nad yw cymorth i ofalwyr wedi cael blaenoriaeth gan awdurdodau lleol a'u partneriaid.

Tra bo gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol strategaethau gofalwyr ar waith, mae AGGCC yn dweud nad yw rhai o'r rhain wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n defnyddio safbwynt gofalwyr i ddatblygu ei cynlluniau yn y dyfodol.

Daw sylwadau AGGCC mewn adroddiad, wedi iddynt gynnal gwaith i ganfod mwy am amodau gofalwyr fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2017.

Fe wnaeth yr arolygiaeth ganfod rhai arferion da iawn wrth gefnogi gofalwyr, ond roeddent yn dweud nad yw hyn yn gyson ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw rhieni sy'n gofalu am blant ag anghenion cymhleth ddim yn cael digon o gymorth, meddai AGGCC

Mae eu hymchwil yn dangos mai'r ddau fath o ofalwyr ble mae'r cymorth fwyaf cyfyngedig yw rhieni sy'n gofalu am blant ag anghenion cymhleth, a gofalwyr oedolion ag anghenion iechyd meddwl.

Dywedodd y prif arolygydd AGGCC, Gillian Baranski, mai ei gobaith yw y bydd yr adroddiad yn "helpu i roi sylw o'r newydd ac ysgogi gwelliannau i'r gwaith o gefnogi gofalwyr".

'Mwy o hawliau'

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol wedi "rhoi mwy o hawliau i ofalwyr".

"Fel rhan o Wythnos y Gofalwyr, byddaf yn mynychu sesiwn drafod gyda gofalwyr i gyflwyno'r fersiwn ddrafft o'n Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Gofalwyr.

"Rwy'n edrych ymlaen at glywed am brofiadau a safbwyntiau gofalwyr, a fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r cynllun ymhellach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Evans y bydd safbwynt gofalwyr yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynlluniau'r llywodraeth yn y dyfodol

Dywedodd Beth Evans ar ran Gofalwyr Cymru ei bod yn "hanfodol bwysig" bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei angen i'w galluogi i barhau i ofalu.

"Mae gofalwyr di-dâl yn cyfrannu gwerth £8.1bn o ofal pe bai rhaid i'r gofal hwnnw gael ei ddarparu gan wasanaethau cymdeithasol neu iechyd statudol," meddai.

"Pan ddaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016, daeth â hawliau newydd pwysig yn ei sgîl ar gyfer gofalwyr yng Nghymru, gan gynnwys dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i gynnig asesiadau anghenion gofalwyr.

"Rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod ganddynt wybodaeth, cyngor a chymorth mewn lle, a'i bod yn eglur sut i gael mynediad iddynt, fel bod gofalwyr yn gallu cael yr wybodaeth gywir ar yr amser cywir."