Yn ôl i'r gwyllt

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Ar ôl goroesi am bum diwrnod yn y gwyllt yn ei filltir sgwâr yn ardal Porthmadog, mae'r Dyn Gwyllt yn ei ôl ac wedi gosod sialens newydd iddo'i hun.

Bydd Carwyn Jones yn dychwelyd i'r sgrin fach yr wythnos hon yng nghyfres Y Dyn Gwyllt: Tri Thymor, gan geisio byw yn hunangynhaliol mewn tair ardal ddieithr iddo a hynny mewn tri thymor gwahanol o'r flwyddyn.

"Ar ddechrau bob un sialens dwi'n meddwl, 'oh my god, be' dwi'n dda fama'," meddai Carwyn, 37, sy'n treulio amser ym myd natur er mwyn dianc o brysurdeb bywyd.

"Fedri di baratoi gymaint lici di cyn cyrraedd - sut mae'r dirwedd yn mynd i fod, be' ti'n mynd i'w fwyta - ond mae'n rhaid i chdi addasu o hyd a ti byth yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn gyda'i gi ffyddlon, Gwen, yn cerdded y mynyddoedd

"Allan o'r tri, Sir Benfro oedd yr anodda'," meddai Carwyn, a fu'n gwneud ei sialens ddiweddara' yn Sir Benfro yn yr haf, y Bannau yn yr hydref, ac Eryri yn y gaeaf.

"Mae'r ardal yn adnabyddus am ei harddwch a ffrwythlondeb ond dyma'r tro cynta' i mi fentro tu hwnt i fy nghynefin fy hun ac 'ro'n i 'di bod braidd yn naïf.

"Roedd y tir yn lot fwy moel na be' o'n i'n ei ddisgwyl a ddaru'r tywydd ddim helpu chwaith!"

"Y Bannau nes i joio gorau," meddai. "Roedd o'n fwy cyfforddus ac yn debycach i adra.

"Trio cadw'n fyw a pheidio dal hypothermia oedd ar fy meddwl i yn Eryri yng nghanol gaea'!

"Pan dwi'n mynd ar ben fy hun, be' dwi'n trio'i wneud yw byw'n gyfforddus hefo bywyd gwyllt.

"Mae o'n antur, ti wastad yn brysur ac yn bwysicach na hynny, mae o fel therapi i fi a dwi'n teimlo fel dyn newydd bob tro dwi'n dod nôl i'r byd go iawn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones yn bwydo ei hun o dan oruchwyliaeth Gwen y ci

Felly pa gyngor fyddai Carwyn yn ei roi i rywun fyddai'n awyddus i wneud rhywbeth tebyg?

"Gyda phob parch, mae rhaid gwneud y gwaith ymchwil," meddai. "Mae hi'n gêm beryg - felly os 'dach chi ddim yn gwybod be 'dach chi'n neud, peidiwch a'i wneud o.

"Does dim rhaid i chi fynd allan i'r awyr agored am bump diwrnod y tro cynta' - just ewch allan a choginio rhywbeth.

"Mae angen darllen digon o lyfra' - peidiwch mynd ar y we achos mae 'na gymaint o rwtsh arna fo. Darllenwch y llyfra' cywir a gwrando ar bobl sy'n gwybod be' ma' nhw'n sôn amdano - ac ewch allan i drio fo!

"Yn sicr mae 'di fy helpu mewn sawl ffordd - fy ffitrwydd ac yn feddyliol. Mae gwneud rhywbeth fel hyn yn rhoi bob dim mewn i bersbesctif - bod y pethau dwi'n poeni amdanyn nhw yn y byd modern... dydyn nhw ddim yn bwysig mewn gwirionedd, a does 'na ddim amser i boeni amdanyn nhw.

"Mae gwneud hyn yn fath o therapi. Mae rhywun mor insignificant i bopeth sydd o'u hamgylch pan 'dach chi allan ym myd natur, yng nghanol 'nunlla."

Y Dyn Gwyllt: Tri Thymor, nos Iau, 15 Mehefin 21:30, S4C