Dyledion prifysgol myfyrwyr o Gymru yn cyrraedd £3.7bn

  • Cyhoeddwyd
GraddioFfynhonnell y llun, PA

Mae ffigyrau newydd wedi dangos fod cyfanswm y ddyled sydd gan fyfyrwyr Cymru ar ôl benthyg ar gyfer eu hastudiaethau wedi cyrraedd £3.7bn.

Dangosodd data'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fod y cyfanswm ar gyfer benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw wedi cynyddu o 12% yn 2016/17, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae myfyrwyr Cymru bellach yn gadael addysg uwch gyda dyledion o £19,280 yr un ar gyfartaledd.

Mae'r ffigwr hwnnw'n is na chyfartaledd y ddyled sydd gan fyfyrwyr o Loegr a Gogledd Iwerddon, ond yn uwch na myfyrwyr o'r Alban.

Newid i grantiau

Ar gyfartaledd mae myfyrwyr o Loegr yn graddio gyda dyledion o £32,220, tra bod y ffigwr yn £20,990 i'r rheiny o Ogledd Iwerddon, a £11,740 i Albanwyr, sydd ddim yn gorfod talu ffioedd os ydyn nhw wedi aros yn eu gwlad nhw i astudio.

Ers 2012/13 mae myfyrwyr o Gymru wedi gallu hawlio grant i fynd tuag at eu ffioedd dysgu, oedd werth £4,954 yn 2017/18.

Ond mae disgwyl i'r grantiau gael eu diddymu o 2018/19 ymlaen, gyda chymorth tuag at gostau byw yn cael ei gyflwyno yn lle hynny.

Ar ddiwedd 2016/17 roedd 304,000 o bobl yng Nghymru oedd wedi cymryd benthyciadau ar gyfer addysg uwch, gyda 191,000 mewn sefyllfa i orfod ad-dalu.

Erbyn Ebrill 2017 roedd dros 41,000 o bobl wedi ad-dalu eu dyledion yn llawn - 16.4% o'r cyfanswm.

Mae graddedigion yn dechrau talu eu dyledion unwaith maen nhw'n dechrau ennill cyflog o £21,000, ond ar ôl 30 mlynedd mae unrhyw ddyled sydd yn weddill yn cael ei ddileu.

Mae'r data yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU, yn ogystal â myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru.