'Angen lleoliad newydd i ddenu digwyddiadau i Gaerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae cael lleoliad aml-bwrpas yng Nghaerdydd allai ddal 15,000 o bobl yn "hanfodol" os yw Cymru am ddenu mwy o ddigwyddiadau, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi.
Ar hyn o bryd mae gan y brifddinas feysydd fel Stadiwm Principality, sy'n dal 74,000, ac Arena Motorpoint, sy'n dal 7,000, ond dim lleoliad sydd rhwng y ddau o ran maint.
Mae awydd i gynnal seremoni flynyddol Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yng Nghymru, yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon a cherddorol mawr eraill.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod de Cymru yn gallu cystadlu ag ardaloedd eraill yn y DU am gyngherddau a digwyddiadau chwaraeon.
'Blaenoriaeth'
Mae gan Lundain, Manceinion, Birmingham, Glasgow, Belfast, Leeds, Lerpwl a Sheffield i gyd feysydd ar gyfer digwyddiadau mawr, tra bod Bryste hefyd yn cynllunio lleoliad gwerth £92m.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates bod "cydnabyddiaeth eang fod angen lleoliad mwy ar Gaerdydd".
Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn "flaenoriaeth mawr" ac ychwanegodd yr aelod cabinet dros fuddsoddi a datblygu, Russell Goodway, eu bod yn "bwriadu cyflwyno cynlluniau yn y misoedd nesaf".
Gallai unrhyw faes newydd gael ei ddefnyddio i gynnal campau fel gymnasteg a bocsio yng Ngemau'r Gymanwlad, petai Caerdydd yn gwneud cais rhyw ddydd.
Mae'r ddinas eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a gemau criced Prawf y Lludw, yn ogystal â chyngherddau gan artistiaid rhyngwladol.
"Bydd lleoliad yn hanfodol bwysig i Gaerdydd yn enwedig, ond i Gymru hefyd, wrth ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr," meddai Mr Skates.
"Yn y cyngor a'r awdurdodau lleol cyfagos mae cydnabyddiaeth o hynny bellach. Mae'n waith sydd angen bwrw 'mlaen ag e, maen nhw'n gwybod hynny ac rydyn ni mewn trafodaethau â nhw."
Maen debyg bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd eisoes yn edrych ar nifer o ffynhonellau ariannol posib.
'Ddim yn cystadlu'
Mae Sgwâr Callaghan ger gorsaf drên Caerdydd Canolog yn un lleoliad sydd wedi ei awgrymu, tra bod rhanbarth rygbi'r Gleision hefyd yn awyddus i adeiladu maes i 15,000 o bobl fel rhan o ailddatblygiad o Barc yr Arfau fyddai werth £150m.
Bydd canolfan gynhadledda yn dal 5,000 o bobl yn agor yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn 2019, tra bod Abertawe hefyd yn bwriadu adeiladu lleoliad i 3,500 fel rhan o ailddatblygiad canol y ddinas.
Mae meysydd pêl-droed Stadiwm Dinas Caerdydd, a Stadiwm Liberty yn Abertawe, hefyd wedi cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau awyr agored yn y gorffennol.
"Y peth pwysig yw, os oes tri chyfleuster ar hyd coridor yr M4, eu bod nhw'n ffitio gyda'i gilydd a ddim yn cystadlu yn erbyn ei gilydd," meddai Mr Skates.
Dywedodd John Rostron, cyd-sylfaenydd gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, ei fod yn cytuno a gweledigaeth y llywodraeth ond y dylai'r "cam cyntaf" fod yn "leoliad cerddoriaeth nid-er-elw", gyda'r arian yn cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.
"Mae gan Gaerdydd fwlch anferth rhwng yr un lleoliad i 1,500, sydd ganddi, a'r 7,000 sy'n gallu ffitio yn Arena Motorpoint. Bydden i'n ceisio cael arena, ond llenwi'r bwlch hwnnw," meddai.