Cyhoeddi enwau milwyr fu farw yng Nghastell Martin
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r milwyr fu farw mewn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio'r fyddin wedi eu cyhoeddi.
Bu farw'r Corporal Matthew Hatfield o Wiltshire, a'r Corporal Darren Neilson o ganlyniad i anafiadau y cawson nhw yn y digwyddiad ar faes Castell Martin ddydd Mercher.
Roedd y ddau yn aelodau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.
Dywedodd yr Is-gyrnol Simon Ridgway bod y ddau yn "filwyr talentog dros ben oedd wrth eu boddau gyda'u swyddi".
"Mae'r catrawd wedi colli dau gymeriad ac mae'n fraint i fod wedi gwasanaethu gyda nhw. Bydd colled ar ôl y ddau."
Mae dau filwr arall yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr "difrifol", un yn Nhreforys yn Abertawe, a'r llall yn Birmingham.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Heddlu Dyfed Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Tobias Ellwood, bod y ddau filwr fu farw yn aelodau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.
Mae BBC Cymru yn deall fod y digwyddiad yn ymwneud â ffrwydron yn ffrwydro o fewn tanc Challenger.
Yn ôl newyddiadurwr y BBC yno, roedd y safle'n brysur fore Gwener wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.
Oherwydd y digwyddiad, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwahardd ymarferion tanio nes eu bod yn gwybod achos y digwyddiad.
Mae'r gwaharddiad mewn grym ar gyfer yr holl fyddin, ble bynnag y maen nhw yn y byd.
Mae safle'r fyddin yng Nghastell Martin yn ymestyn dros 5,900 acer ar hyd arfordir Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017