Brexit: Rhybudd am effaith Iwerddon ar borthladdoedd Cymru
- Cyhoeddwyd

Allai ffin feddal rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon wedi Brexit olygu llai o draffig drwy borthladdoedd fel Caergybi?
Bydd Aelodau Cynulliad yn cwrdd â gwleidyddion a chynrychiolwyr busnes o Iwerddon i drafod yr effaith posib y gallai Brexit ei gael ar borthladdoedd Prydain.
Mae'r cyfarfodydd yn Nulyn ddydd Llun yn rhan o ymchwiliad gan Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad - ar yr un diwrnod ag y mae llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau ffurfiol ar Brexit.
Mae pryderon y gallai ffin "feddal" rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth yn dilyn Brexit olygu bod cwmnïau cludo yn osgoi rheoliadau llymach posib ym mhorthladdoedd Cymru.
Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones y gallai hynny arwain at golli swyddi.
'Ffordd bell'
Bron i flwyddyn ers y refferendwm, bydd cynrychiolwyr o lywodraeth y DU ym Mrwsel ddydd Llun ar gyfer dechrau'r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Michel Barnier, prif drafodwr yr UE, yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Brexit llywodraeth y DU, David Davies ym Mrwsel, i drafod sawl mater gan gynnwys statws mewnfudwyr, y bil fydd yn rhaid ei dalu i adael, a ffin Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Mr Davis fod "ffordd bell o'u blaenau" ond ei fod yn darogan "partneriaeth ddwfn ac arbennig" yn dilyn y trafodaethau
Mae'r BBC ar ddeall y bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar amodau'r broses o adael yr UE yn gyntaf, cyn symud ymlaen i'r berthynas rhwng y ddwy ochr wedi hynny yn hwyrach ymlaen.

Bydd Michel Barnier (chwith) a David Davis yn cyfarfod ddydd Llun
Rhybudd am swyddi
Ar yr un pryd yn Nulyn, bydd Gweinidog Trafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon llywodraeth y Weriniaeth, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Allforio Wyddelig, ymysg y rheiny fydd yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad.
Wrth lansio papur ar Brexit a Datganoli yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Jones nad oedd modd datrys y mater yn ymwneud ag Iwerddon eto.
Ychwanegodd fod gan Gymru ddiddordeb yn y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, oherwydd y ffin forol roedd Cymru ei rannu â'r ynys.
Rhybuddiodd hefyd y byddai ffin heb rwystrau rhwng y gogledd a'r de, tra bod tollau ym mhorthladdoedd Cymru, yn annog masnach i osgoi mynd i'r cyfeiriad hwnnw.

Gallai'r newidiadau hefyd effeithio ar borthladdoedd yn Sir Benfro
Gallai cwmnïau cludo "fynd drwy Cairnryan yn yr Alban, drwy Lerpwl neu fynd drwy Ogledd Iwerddon ac yna i lawr, yn hytrach na defnyddio Caergybi, Abergwaun a Phenfro".
"Felly fe allen ni golli swyddi os nad ydyn ni'n ofalus," meddai.
Dywedodd y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth Iwerddon i drafod y mater.