Ceisio 'hyfforddi' firysau i daclo canser yr ofari
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonydd o Gaerdydd yn ceisio dod o hyd i ffordd o "hyfforddi" firysau er mwyn taclo canser yr ofari, ar ôl cael grant o £250,000 gan Cancer Research UK.
Bydd Dr Alan Parker, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arwain tîm fydd yn ceisio archwilio ac addasu'r firws Ad5.
Yn ei ffurf wreiddiol mae'n gallu achosi haint ar y pibellau anadlu, ac mae fel arfer yn cael ei ledaenu wrth i bobl beswch neu disian.
Ond bydd Dr Parker yn defnyddio'r dechnoleg newydd er mwyn gweld os oes modd ei addasu'r eneteg er mwyn dinistrio celloedd canser.
Esbonio gyda ffilm
Canser yr ofari yw'r chweched math mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod yn y DU, gyda 7,400 yn cael diagnosis ohono bob blwyddyn, a thros 4,100 yn marw ohono yn flynyddol.
"Mae canser yr ofari fel arfer yn cael ei ganfod pan mae wedi datblygu'n sylweddol, ac mae cyfradd y bobl sy'n goroesi am bum mlynedd wedi aros bron yn gyson, ar tua 40% ers tua 25 mlynedd," meddai Dr Parker.
"Mae defnyddio firysau fel ffordd o drin canser yn dod yn fwy cyffredin, ac rydyn ni eisoes yn gweld bod rhai yn edrych yn addawol iawn.
"Mae pobl yn aml yn meddwl bod firysau yn bethau drwg. Ond a dweud y gwir mae modd eu 'hyfforddi' i fod yn driniaeth effeithiol i ganser."
Dywedodd ei fod yn aml yn cymharu'r ymchwil cymhleth i ffilm blant How To Train Your Dragon.
"Ar ddechrau'r ffilm mae gennych chi ddraig sydd yn ymddangos yn ddinistriol a pheryglus, ond mae un o'r cymeriadau yn hyfforddi'r ddraig ac mae'n dod yn rym er gwell," esboniodd Dr Parker.
Y disgwyl yw y gall yr ymchwil gymryd rhwng pump a 10 mlynedd i'w gwblhau, ac os bydd yn llwyddiannus, fe allai hefyd gael ei addasu i drin afiechydon eraill fel canser y fron, y brostad, a'r pancreas.
Dywedodd Ruth Amies, llefarydd ar ran Cancer Research UK yng Nghymru: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymchwil yma'n gwella ein dealltwriaeth o ganser yr ofari, ac arwain at ddatblygu triniaethau newydd yn y dyfodol, allai yn y pen draw wella'r gyfradd goroesi i'r rheiny sydd yn cael yr afiechyd."