Ymosodiad terfysgol Llundain: Arestio dyn o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC yn deall mai dyn o Gaerdydd sydd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad terfysgol yn Llundain.
Mae Darren Osborne, 47, wedi ei ddal ar gyhuddiad o baratoi a gweithredu terfysgaeth, gan gynnwys llofruddio.
Ar hyn o bryd, mae tŷ yn ardal Pentwyn o'r brifddinas yn cael ei archwilio gan swyddogion.
Bu farw un dyn, gyda 11 arall wedi'u hanafu, pan gafodd fan ei gyrru i dorf o addolwyr Mwslemaidd yn ardal Finsbury Park toc wedi hanner nos fore Llun.
Mae'n debyg bod y fan gafodd ei defnyddio yn y digwyddiad yn eiddo i gwmni Pontyclun Van Hire o Rondda Cynon Taf.
Dywedodd yr AS Jo Stevens, sy'n cynrychioli etholaeth Canol Caerdydd, ei fod hi'n "bryderus iawn bod yr ymosodwr honedig" yn dod o'i hetholaeth.
Wrth siarad y tu allan i'w chartref yn Weston Super Mare, dywedodd chwaer Mr Osborne, Nicola, ei bod hi'n "ymddiheuro'n fawr am yr hyn sydd wedi digwydd."
Mae Heddlu'r De yn dweud eu bod yn cydweithio gyda Heddlu Llundain ar eu hymchwiliadau, gan ddweud y bydd patrolau ychwanegol i sicrhau diogelwch cymunedau.