Chiefs 6-34 Y Llewod
- Cyhoeddwyd
Rhoddodd Y Llewod hwb mawr i'w hyder cyn y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd wrth drechu'r Chiefs yn gyfforddus yn Stadiwm FMG yn Hamilton ddydd Mawrth.
Aeth y Llewod ar y blaen gyda dwy gic gosb o droed Dan Biggar, ond i'r prop Joe Marler weld cerdyn melyn am dacl ar Nepo Laulala heb y bêl.
Fe wnaeth cic gosb Stephen Donald roi'r Chiefs ar y sgorfwrdd am y tro cyntaf, cyn i'r Llewod sgorio cais cynta'r gêm trwy'r asgellwr Jack Nowell.
Cafodd ei throsi gan Biggar cyn i Donald ychwanegu cic gosb arall i'w gwneud yn 6-13 ar yr egwyl.
Y Llewod gafodd y dechrau gorau i'r ail hanner, gyda gwaith da'r blaenwyr yn arwain at gais gosb, ac fe welodd Mitchell Brown gerdyn melyn i'r Chiefs am ei rôl wrth i'r sgarmes symudol ddymchwel.
Sgoriodd Nowell ei ail gais, ac o bosib yr orau i'r Llewod ar y daith hyd yma, yn fuan wedi hynny yn dilyn ymosodiad gwych gan yr olwyr.
Ychwanegodd Jared Payne bedwaredd cais i'r ymwelwyr gyda 15 munud yn weddill wedi i Liam Williams - oedd yn chwarae fel cefnwr am y tro cyntaf ar y daith - dorri trwy amddiffyn y Chiefs.
Er nad oes disgwyl i'r un o'r rhai chwaraeodd ran yn erbyn y Chiefs i ddechrau yn erbyn y Crysau Duon yn y prawf cyntaf ddydd Sadwrn, dyma o bosib oedd perfformiad gorau'r Llewod ar y daith.
Roedd tri Chymro - Dan Biggar, Liam Williams a Justin Tipuric - yn dechrau'r gêm, a bydd y perfformiad yn hwb mawr i'w gobeithion nhw o chwarae rhyw ran yn yr ail neu'r trydydd prawf.
Fe wnaeth capten Cymru, Alun Wyn Jones, ymddangosiad fel eilydd, ond ni ddaeth yr un o'r pedwar gafodd eu galw i'r garfan yn annisgwyl o daith Cymru - Kristian Dacey, Tomas Francis, Cory Hill a Gareth Davies - oddi ar y fainc.
Bydd Y Llewod nawr yn troi eu golygon ar y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd ym Mharc Eden yn Auckland ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2017