Tri Chymro yn dechrau i'r Llewod yn erbyn y Chiefs

  • Cyhoeddwyd
biggar, williams, tipuricFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Dan Biggar, Liam Williams a Justin Tipuric i gyd yn dechrau yn erbyn y Chiefs, yng ngêm baratoadol olaf y Llewod cyn iddyn nhw wynebu Seland Newydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r tîm drechodd Maori'r Crysau Duon o 32-10 ddydd Sadwrn wedi eu gadael allan, gan awgrymu fod Warren Gatland yn eu cadw ar gyfer yr ornest yn erbyn y Crysau Duon.

Ar y fainc yn erbyn y Chiefs mae pum Cymro - gan gynnwys y pedwar gafodd eu galw'n annisgwyl o daith Cymru i ymuno â'r garfan.

Cafodd y penderfyniad i alw Kristian Dacey, Tomas Francis, Cory Hill a Gareth Davies - yn ogystal â'r Albanwyr Allan Dell a Finn Russell - ei feirniadu gan rai am ffafrio chwaraewyr oedd yn ddaearyddol agos yn hytrach na'r rheiny oedd yn haeddu lle.

'Chwarae dros y garfan'

Bydd Dacey, Francis, Hill a Davies, yn ogystal ag Alun Wyn Jones, ar y fainc ar gyfer yr ornest yn erbyn y Chiefs yn Waikato ddydd Mawrth.

Bachwr Iwerddon, Rory Best fydd capten y tîm.

"Rydyn ni yma i ennill cyfres brawf ac rydyn ni wedi galw chwaraewyr ychwanegol ar gyfer y fainc fel bod modd cyfyngu ar nifer y chwaraewyr sy'n gorfod chwarae ddwywaith, sydd yn anodd ar y lefel yma o rygbi," meddai Gatland.

"Bydd y rheiny sy'n chwarae ddydd Iau nid dim ond yn chwarae dros eu hunain o ran ceisio cael eu dewis eto, ond dros y garfan gyfan."

Y Llewod

L Williams; J Nowell, J Payne, R Henshaw, E Daly; D Biggar, G Laidlaw; J Marler, R Best, D Cole, I Henderson, C Lawes, J Haskell, J Tipuric, C Stander.

Eilyddion: K Dacey, A Dell, T Francis, C Hill, AW Jones, G Davies, F Russell, T Seymour.