Ymosodiad mosg: Arestio mab dyn busnes am neges sarhaus

  • Cyhoeddwyd
Pontyclun Van ForensicsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi arestio dyn sydd wedi ei amau o gyhoeddi negeseuon sarhaus yn dilyn yr ymosodiad ar fosg yn Finsbury Park.

Bu farw un dyn yn ardal y digwyddiad, ac fe gafodd 11 arall eu hanafu.

Mae Richard Evans yn fab i un o gyfarwyddwyr Pontyclun Van Hire - perchnogion fan gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad.

Dywedodd Richard Evans ar wefan gymdeithasol ei bod hi'n "bechod nad ydyn nhw'n llogi stêm-roleri neu danciau i wneud joban deidi ohoni".

Mae ei dad, Len Evans wedi beirniadu sylwadau ei fab: "Dwi mo'yn condemnio'r sylwadau Twitter difeddwl yma yn y termau cryfa' posib.

"Dydyn nhw ddim yn adlewyrchu fy sylwadau i nac unrhyw un arall yn y teulu.

"Roedd yr ymosodiad yn Finsbury Park yn frawychus ac yn llwfr. Ynghyd â'r holl staff yn Pontyclun Van Hire, dwi'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu ymchwiliad Heddlu Llundain."

Mae'r cwmni yn y Rhondda yn cael ei redeg gan bum brawd. Dywedodd un arall o'r brodyr, Paul Evans, nad oes gan Richard Evans unrhyw ran yn y cwmni.

Nos Fawrth cafodd yr heddlu fwy o amser i holi dyn gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad terfysgol.