Ymosodiad terfysgol Llundain: Mwy o amser i holi dyn

  • Cyhoeddwyd
Darren Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl teulu Darren Osborne doedd o erioed wedi mynegi safbwyntiau hiliol

Mae Heddlu Llundain wedi cael mwy o amser i holi dyn gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad terfysgol ar Fwslimiaid yn Llundain.

Mae'n debyg mai Darren Osborne, 47, sy'n byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd, yw'r dyn sydd yn y ddalfa.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o droseddau terfysgol ar ôl i fan daro torf o addolwyr yn Finsbury Park.

Bu farw un dyn yn ardal y digwyddiad, ac fe gafodd 11 arall eu hanafu.

Mae teulu a chymdogion Darren Osborne wedi mynegi eu sioc wedi ei arést, tra bod rhai heddluoedd yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd 'na fwy o batrolau.

Yn eu cyhoeddiad nos Fawrth, dywedodd Heddlu Llundain eu bod wedi cael yr hawl i gadw'r dyn yn y ddalfa tan tua 01:00 bore Sadwrn.

Ychwanegodd y datganiad nad ydy'r un o'r naw o bobl gafodd eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad bellach yn cael gofal dwys.

Maen nhw dweud hefyd bod yr awdurdodau'n dal i ystyried a oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a marwolaeth y dyn yn ardal y digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r heddlu'n yn archwilio tŷ yn ardal Pentwyn o'r brifddinas

Mae teulu Darren Osborne - sy'n dad i bedwar ac yn wreiddiol o Weston Super Mare yng Ngwlad yr Haf - wedi dweud eu bod yn "mewn sioc".

Mewn datganiad, dywedodd ei fam, ei chwaer a'i nai: "Rydym mewn sioc enfawr. Mae'n anghredadwy - mae'n anodd credu hyn.

"Mae ein calonnau a'n cydymdeimlad gyda'r rhai sydd wedi cael eu hanafu.

"Wnaeth o [Darren Osborne] erioed fynegi safbwyntiau hiliol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cymdogion ym Mhentwyn hefyd wedi sôn am eu "sioc" ar ôl i Darren Osborne gael ei arestio.

Dywedodd un dyn: "Mae hon yn ddinas gosmopolitaidd ac mae wedi bod erioed.

"Nid yw wedi digwydd ar stepen ein drws ni ond mae wedi gan fod y dyn o yma.

"Dydyn ni ddim eisiau cael ein cysylltu gyda'r peth."

Disgrifiad,

Alun Michael yn siarad ar y Post Cyntaf, Radio Cymru

Mae rhai o heddluoedd Cymru'n dweud y byddan nhw'n gwneud mwy dros yr wythnosau nesaf i sicrhau diogelwch y gymuned Fwslemaidd.

Dywedodd Heddlu'r De a Heddlu'r Gogledd y bydd swyddogion yn cynnal mwy o batrolau, tra fod Heddlu Gwent yn dweud y byddan nhw'n "gweithio gyda chymunedau i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo'n ddiogel".

Yn ôl Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, mae gweithio o fewn y cymunedau a chydweithio gyda'r cymunedau yn un o'r atebion wrth fynd i'r afael ag eithafiaeth.