Curo canser - ar lwyfan

  • Cyhoeddwyd
Megan DaviesFfynhonnell y llun, Cwmni'r Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Megan Davies

Bron i ddwy flynedd yn ôl, bu Cymru Fyw yn siarad ag un ferch ddewr o Ben Llŷn wedi iddi gael gwybod fod ganddi Hodgkin Lymphoma.

Roedd Megan Davies o Bwllheli yn blogio'n, dolen allanol aml gan rannu ei phrofiadau o frwydro'r canser gyda chynulleidfa iau.

Wedi iddi gael gwybod ychydig fisoedd wedyn ei bod hi'n glir o ganser, eleni mae stori Megan am gael ei droi'n ddrama lwyfan.

Bydd cwmni theatr y Frân Wen yn teithio 'Mwgsi', sydd wedi ei sgwennu gan yr awdur a dramodydd Manon Steffan Ros, yn ystod yr hydref eleni.

Mirain Fflur sy'n chwarae'r brif ran, gyda Catrin Mara a Ceri Elen hefyd yn perfformio'r ddrama.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw ym mis Rhagfyr 2015, fe soniodd Megan am sgil-effeithiau'r cemotherapi gan gynnwys colli ei gwallt, a chael gwybod bod yn rhaid iddi gael triniaeth IVF er mwyn rhoi cyfle iddi gael plant yn y dyfodol.

Mae'r cyfarwyddwr Iola Ynyr yn addo "drama creulon o onest ond llawn hiwmor tywyll", ac mae Megan a'i ffrind, Gwenllian, wedi chwarae rhan ganolog yn siapio'r ddrama.

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Mirain Fflur sy'n chwarae rhan Megan, neu 'Mwgsi', yn y ddrama

'Falch o'r cyfle i rannu fy stori'

"Mae wedi bod yn lot o hwyl bod yn rhan o ddod a bob dim at ei gilydd," meddai Megan, sydd bellach yn astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd, wrth drafod y ddrama.

"Dwi 'di bod yn darllen llyfrau Manon ers blynyddoedd, yn enwedig pan roeddwn yn astudio ar gyfer fy Lefel A, felly roedd o'n brofiad gwych gallu datblygu'r stori hefo hi.

"Dwi'n teimlo'n falch fy mod yn cael y cyfle i rannu fy stori mewn ffordd fwy eang, er mwyn codi ymwybyddiaeth o ganser ymysg yr ifanc," meddai'r ferch 20 oed.

"Mae Manon wedi defnyddio fy stori i fel ysbrydoliaeth, a da' ni wedi ceisio gwneud y ddrama mor abstract â phosib, gan ddefnyddio fy mlog fel sylfaen.

"Dwi'n gobeithio gwneith y ddrama ysbrydoli pobl eraill i siarad - siarad am ganser, salwch ac iechyd meddwl. Dyda ni ddim yn siarad digon."

Am fwy o wybodaeth am y ddrama 'Mwgsi', ewch i wefan Cwmni'r Frân Wen., dolen allanol

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Megan (ar y chwith) yn yr ysbyty gyda'i ffrindiau