Cwis: Beth yw'r record?

  • Cyhoeddwyd

Gallwch wrando ar dros 7,000 o glipau sain o archif cwmni recordiau Sain ar wefan Wicmedia, dolen allanol. Mae'r cwmni hefyd wedi rhannu lluniau o bron i 500 o gloriau fel rhan o brosiect ar y cyd gyda Wicipedia, Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn agor eu cynnyrch i gynulleidfa ehangach.

Beth am brofi eich gwybodaeth gerddorol. Fedrwch chi 'nabod cloriau'r recordiau yma?

Ydych chi'n cofio enw'r albym yma, gan un o'n artistiaid mwyaf poblogaidd?

a) Da Ni'm Yn Rhan O'th Gêm Fach Di - Maffia Mr. Huws

b) Caneuon Cynnar - Dafydd Iwan

c) A Rhaw - Sobin a'r Smaeliaid

Am yr ateb, pwyswch yma.

A nawr, albym gan ganwr unigol sydd â'i wreiddiau yn y gorllewin... ond pwy?

a) Sarita - Tecwyn Ifan

b) Heno Bydd Yr Angylion Yn Canu - Malcolm Gwyon

c) Dagrau - Timothy Evans

Am yr ateb, pwyswch yma.

Ail fersiwn casgliad arbennig gan artistiaid amrywiol, ond beth oedd enw'r casgliad?

a) Wil Wrth Y Wal

b) Cwm Rhyd y Rhosyn 2

c) Mi Ganaf Gân

Am yr ateb, pwyswch yma.

Llwyth o 'ddail' oedd yr albym yma?

a) Gweld y Llun - Anweledig

b) Lizarra - Estella

C) Trwmgwsg - Big Leaves

Am yr ateb, pwyswch yma.

Clustfeiniwch ac mi gofiwch hon mae'n siŵr?

a) Smôcs, Coffi a Fodca Rhad - Meinir Gwilym

b) Distaw - Siân James

c) Dim Gair - Elin Fflur

Am yr ateb, pwyswch yma.

Mae cliw mawr i gynnwys ac enw'r albym ar y clawr...

a) Cân y Babis

b) 100 o Ganeuon i Blant

c) Bobol Bach

Am yr ateb, pwyswch yma.

Falle fyddwch yn 'nabod yr artistiaid, ond fedrwch chi gofio enw'r albym?

a) Llwybrau Breuddwydion - Iona ac Andy

b) Cerdded Dros y Mynydd - Iona ac Andy

c) Gwin yr Hwyrnos - Iona ac Andy

Am yr ateb, pwyswch yma.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol