Arwyddion cam
- Cyhoeddwyd
Mae'r egwyddor o ddarparu arwyddion dwyieithog yn un i'w ganmol, ond mae'r ymdrechion yn gallu achosi embaras ambell waith...

Cyhoeddwr llyfrau newydd?
Fydd cyhoeddiadau y 'wasg' newydd hon yn gwerthu fel slecs ar faes y Steddfod eleni? Arwydd gafodd ei weld yn Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Ddinas, Caerdydd.


'Sgwrn i be ddigwyddodd yma?
Peidiwch â drysu os ydych chi wedi torri sgwrn yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot.


Rhybudd!
Diolch i Patrick Soper welodd yr arwydd hon ar gylchfan yn Hwlffordd yn 2015. Rwy'n cymryd fod Patrick yn un o'r cerddwyn mae'r arwydd yn cyfeirio atynt?


Ble?
Roedd hi'n bwysig iawn i chi ddilyn yr arwydd hwn yng Nghaerdydd adeg Ewro 2016 llynedd.


Mor agos, ac eto...
Mae'r arwydd yma yn siop DW Sports ger Stadiwm Dinas Caerdydd, mor agos at fod yn gywir, mae'n boenus. Bron mor boenus â sesiwn yn y gampfa sydd ynghlwm â'r siop!


Sut mae gwthio newid?
Ydy'r drws yma yn agor yn aml 'chi'n credu?

Un bach i gloi... ynte i agor?

Pysgod prin
Beth, dim pysgoto? Rhaid i ni chwiloto am rhywbeth arall i'w fwyto!


Symud cyfandir?
Cofio hwn? Siop yn Aberystwyth oedd yn rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i U.S.?


Peidiwch â bod yn swil
Mae'n destun digon o embaras mynd i'r tŷ bach ond does dim angen bod cweit mor swil yng ngorsaf reilffordd Beddgelert!


Llaeth a...?
Ond a ddylwn ni feirniadu cwmnïau mawr, rhyngwladol y byd am gamgymeriadau? Wedi'r cyfan, chwarae teg iddyn nhw am wneud yr ymdrech yn y lle cyntaf.
Pan agorodd cwmni siop goffi rhyngwladol gangen yn Aberystwyth, mi wnaethon nhw addurno'r wal gyda rhestr o ddywediadau oedd yn cyfathrebu gweledigaeth y cwmni. Yn anffodus, doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gwneud unrhyw synnwyr!

Un o arwyddion siop goffi yn Aberystwyth: Mae'n rhaid eu bod nhw wedi rhedeg mas o le!

Dewiswch air a rhowch mewn unrhyw drefn...
"Diolch i 'Bruce' am roi'r cyfeithiadau i ni, y cwbl sydd angen ei wneud nawr yw gosod y geiriau yn yr un drefn â'r Saesneg!"
Ymm... 'falle ddim!


Www... er... Misus!
Beth sydd yn symudol, a pham fod y top yn mynd i fyny mewn archfarchnad yng Nghaerdydd? Does neb yn gwybod.

Yn eich amser eich hun bobl!

Yr iaith anghywir!
Mae'n ddigon o embaras cyfeithu yn anghywir o'r Saesneg i'r Gymraeg ond mae'n cymryd cam anhygoel i gyfieithu i'r iaith anghywir!
Mewn maes parcio archfarchnad yn Abertawe doedd 'na ddim unrhyw gamgymeriadau gramadegol na sillafu. Beth all fynd o'i le? Cafodd y Saesneg ei gyfieithu i Gaeleg yr Alban yn hytrach na'r Gymraeg! O diar, neu obh obh! fel bydden nhw yn ei ddweud yn Inverness!


Y clasur
Ond fedrwn ni ddim trafod y pwnc hwn heb y clasur, eto o Abertawe...

Nodyn i gyfieithwyr: Peidiwch rhoi neges awtomatig ar eich e-bost pan ewch ar wyliau

Ydych chi wedi gweld neu glywed esiamplau eraill o gamddefnydd o'r Gymraeg, naill ai ar lafar neu mewn arwydd?
Anfonwch eich enghreifftiau at:
Twitter: @bbccymrufyw, dolen allanol
Facebook: BBC Cymru Fyw, dolen allanol
e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk

**NODYN: Nid yw Cymru Fyw'n gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau yn yr erthygl yma**
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2015