Cyswllt awyr Môn-Caerdydd i barhau yn dilyn adolygiad
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwasanaeth awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn parhau yn dilyn adolygiad.
Dywedodd y prif weinidog bod yr adroddiad, ddigwyddodd y llynedd, hefyd yn argymell helpu'r gwasanaeth i dyfu.
Mae nifer o gwmnïau wedi rhedeg y gwasanaeth ers ei sefydlu yn 2007.
Eastern Airways sy'n hedfan ar hyn o bryd, wedi i Citywing fynd i'r wal gan ddweud bod y gwasanaeth yn "anghynaladwy".
'Hanfodol i'n heconomi'
Mae'r gwasanaeth yn cysylltu Caerdydd a'r Fali ar Ynys Môn o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae wedi derbyn nawdd cyhoeddus ers cael ei sefydlu, gyda rhai'n cwestiynu'r gwerth am arian i'r trethdalwyr.
Dywedodd y Ceidwadwyr ddydd Mercher ei bod hi'n bryd cael gwared â'r gwasanaeth.
Ond yn ei ddatganiad, dywedodd Carwyn Jones bod yr hediadau'n "ffordd gyflym a chyfleus o deithio rhwng y de a'r gogledd, sy'n hanfodol i'n heconomi".
Dywedodd mai "oherwydd gweithredwyr blaenorol yn fwy na dim" roedd y gwasanaeth wedi "wynebu anawsterau yn y gorffennol".
Fe ddywedodd bod yr adroddiad hefyd yn argymell "helpu'r gwasanaeth awyr i dyfu" a bod Llywodraeth Cymru "bellach yn edrych ar sut y gellid datblygu'r llwybr dros y pedair blynedd nesaf".
Ychwanegodd y bydd Eastern Airways, wnaeth gamu i'r adwy yn sgil tranc Citywing, yn dal i redeg y gwasanaeth am y tro, ond y bydd "y broses gystadleuol o gaffael gweithredwr hirdymor" yn cychwyn "yn y misoedd nesaf".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi mai "gwasanaeth gwennol i weision sifil a gweinidogion" yw'r cyswllt, a bod "dim tystiolaeth" ei fod o werth i'r economi'n ehangach.
"Mae cymhorthdal Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyswllt yn fwy na £100 y pen, sy'n ddrytach na thocyn dwy ffordd", meddai Russell George AC.
"Os nad ydyn nhw'n gallu profi bod y gwasanaeth yn gallu bod yn gost effeithiol yn y tymor hir, yna dylid cael gwared ag e."