Cau ysgol yn y Rhyl achos pryderon am gladin
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ysgol yn y Rhyl ar gau am weddill yr wythnos oherwydd pryderon am orchudd waliau'r ysgol.
Mae'r cladin ar y Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi'i gynhyrchu gan yr un cwmni a wnaeth y deunydd oedd ar Dŵr Grenfell.
Bu farw degau o bobl mewn tân yn y tŵr hwnnw yn Llundain fis diwethaf.
Dywedodd Cyngor Sir Ddibych y byddai "asesiad risg llawn" ar adeilad yr ysgol dros y deuddydd nesaf.
'Gwahaniaethau mawr' â Grenfell
Cafodd rhieni wybod am y penderfyniad i gau'r ysgol mewn llythyr gan y pennaeth ddydd Mercher.
Yn eu datganiad, dywedodd y cyngor sir bod "dim i awgrymu bod risg uwch o dân" yn yr ysgol, wnaeth symud i safle newydd yn 2016.
Dywedon nhw eu bod yn "credu bod y mesurau gofal tân a'r profion eang" ar y safle newydd "yn ddibynadwy".
Nododd y cyngor hefyd bod "gwahaniaethau mawr" yn y ffordd oedd y cladin yn cael ei ddefnyddio ar Dŵr Grenfell ac ar adeilad yr ysgol.
Ond bydd yr ysgol yn cau "rhag ofn" tra bod profion yn cael eu cynnal.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Claire Armitstead, y bydd hi'n rhoi diweddariad i rieni mewn datganiad ddydd am 15:00 dydd Gwener.