Is-etholiad Caerffili i'w gynnal ar 23 Hydref

Castell Caerffili Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Caerffili yn un o leoliadau amlycaf yr etholaeth

  • Cyhoeddwyd

Bydd yr is-etholiad yn etholaeth Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.

Bu Hefin David yn Aelod o'r Senedd ar ran y Blaid Lafur dros yr etholaeth ers 2016.

Bu farw Mr David yn sydyn ym mis Awst yn 47 oed, a chafodd ei angladd ei gynnal ddydd Llun.

Cafodd Mr David 13,289 o bleidleisiau (cyfran 46.0%) yn etholiad 2021, gyda Delyth Jewell o Blaid Cymru yn ail gydag 8,211 o bleidleisiau (28.4%) a Steven Mayfield o'r Ceidwadwyr yn drydydd - 5,013 (17.3%).

Mewn datganiad, dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Rwyf wedi cyhoeddi y bydd is-etholiad Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref 2025 ac rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau yn gofyn iddo drefnu i'r pôl gael ei gynnal ar y dyddiad hwnnw."

Plaid Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi eu hymgeisydd, gan ddewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle.

Dywedodd Mr Whittle, a fu'n aelod cynulliad dros y blaid rhwng 2011 a 2016 ac sydd yn awr yn gynghorydd yn ward Penyrheol, fod amgylchiadau'r is-etholiad yn "drist iawn ac rwy'n parhau i feddwl yn fawr am deulu ac anwyliaid Hefin".

"Mae pobl Caerffili yn haeddu cynrychiolydd lleol angerddol yn y Senedd. Rwy'n benderfynol o gynnig agenda gadarnhaol, i sicrhau fod yr ardal hon yn cael bargen deg," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod yn "gobeithio cyhoeddi ein hymgeisydd dros y penwythnos".

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw'n "dechrau'r broses o ddewis ymgeisydd yn fuan".

Hefin DavidFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Hefin David yn sydyn ym mis Awst yn 47 oed

Dadansoddiad

Dyma is-etholiad na fyddai unrhyw un yn dymuno ei gael, ond eto mae 'na dipyn o frwydr i ddod.

Mae Caerffili wedi bod yn sedd Llafur ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu. Ond yn breifat mae rhai yn y blaid Lafur yn credu eu bod nhw eisoes wedi colli'r is-etholiad yma.

Mae eraill yn fwy gobeithiol ac yn benderfynol o frwydro i gadw'r sedd.

Ond mae Reform a Phlaid Cymru yn gweld cyfle euraidd i'w chipio a sicrhau buddugoliaeth fyddai'n hwb enfawr i'w gobeithion yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Pe bai un o'r ddwy blaid yna yn ennill mi fyddai'n gadael Llafur gyda 29 o aelodau, i'w gymharu â 31 y gwrthbleidiau, gan eu rhoi mewn sefyllfa anodd wrth i'r llywodraeth geisio pasio eu cyllideb nesaf.

Yn 2021, fe enillodd Hefin David sedd Caerffili gyda mwyafrif o dros 5,000 dros Blaid Cymru, gyda Reform yn olaf gyda llai na 500 o bleidleisiau, sy'n dangos cymaint mae'r tirlun gwleidyddol wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Pynciau cysylltiedig