Teyrnged teulu i 'fam llawn cariad a gofal'

Roedd Daphne Stallard yn helpu'n "rheolaidd" yn Eglwys Iau'r Drindod Sanctaidd yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fenyw 89 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan lori yn Llandudno fore Llun.
Bu farw Daphne Stallard, mam Mary Stallard - Esgob Llandaf, ar safle'r digwyddiad am tua 09:00 ar Stryd Brookes.
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus bellach wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad yr heddlu.
Mewn datganiad dywedodd y teulu: "Roedd ein Mam, Daphne, yn olau disglair llawn cariad yng nghanol ein teulu."
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Stryd Brookes tua 09:00 fore Llun.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys - gan gynnwys ambiwlans awyr - fynychu'r digwyddiad, ond bu farw Daphne Stallard yn y fan a'r lle.
Wrth roi teyrnged dywedodd y teulu ei bod "hi'n fam-gu gofalgar a oedd bob amser yn meddwl am ei phlant, a'i hwyrion sydd bellach wedi tyfu i fyny, ac yn llawn balchder.
"Roedd ganddi ffydd ac fe roddodd gymaint o'i hamser i ofalu am eraill ac mae bob amser wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar yn yr eglwys".
Roedd Daphne yn aelod o sawl grŵp cymunedol ac yn treulio llawer o amser yn "ymweld, neu'n ysgrifennu at unrhywun, yr oedd hi'n meddwl y byddai'n gwerthfawrogi cymorth".
Dywedodd y teulu ei bod hi'n "gofalu am bobl o bob oedran ac yn mwynhau helpu plant ifanc yr Ysgol Sul yn enwedig".
Ychwanegon nhw bod "ei cholli'n sydyn wedi dod fel sioc fawr i ni i gyd" ond bod yna "gysur i ni wrth i ni gredu ei bod hi wedi ymuno â'i hanwylyd Charles, a'u bod ill dau yn ddiogel yng ngofal Duw".

Mary Stallard yw Esgob Llandaf ers 2023
Ymlith y rhai sydd wedi cydymdeimlo ag Esgob Llandaf, Mary Stallard, yn dilyn marwolaeth ei mam mae Archesgob Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Cherry Vann: "Gyda'r sioc a'r tristwch dwysaf y clywais am farwolaeth drasig mam yr Esgob Mary, Daphne."
"Gwn y bydd holl aelodau'r Eglwys yng Nghymru, a phawb sy'n adnabod yr Esgob Mary, yn ymuno â mi i gynnig eu cydymdeimlad diffuant a'u gweddïau drosti hi a'i theulu yn yr adeg hynod boenus hon."
Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau bod cerbyd ailgylchu wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad angheuol.
Ychwanegodd y datganiad bod y cyngor yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r fenyw fu farw yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod yr awdurdod yn cynorthwyo ymholiadau'r heddlu.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod hwythau yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.