40 mlynedd ers darganfod y Titanic - y cysylltiadau Cymreig

- Cyhoeddwyd
Mae 1 Medi 2025 yn nodi 40 mlynedd ers darganfod llong y Titanic tua 370 milltir oddi ar arfordir Newfoundland, Canada.
Suddodd y Titanic ar 15 Ebrill, 1912, ac mae chwilfrydedd wedi bod am y trychineb ers hynny.
Rhywun sy'n ymddiddori yn yr hanes yw Ifan Pleming o Ben Llŷn.
Yma, mae o'n adrodd ychydig o hanes y Cymry a gafodd eu hanfarwoli drwy eu cysylltiad â'r llong 'nad oedd modd ei suddo'.
Y criw
Mae gan y teulu Ismay gysylltiadau â Chymru. Thomas Henry Ismay oedd perchennog y White Star Line, ac roedd ei fab, Joseph Bruce Ismay, ar fwrdd y Titanic yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni.
Roedd Thomas yn ymwelydd cyson â Llandegfan, Biwmares a Chaernarfon, gan fod gan ei bartner busnes William Imrie blasty yn Llandegfan – Bryn Mel.
Diddorol yw nodi hefyd bod gan Ismay 32 siâr mewn llong o Bwllheli, y Charles Brownell, yn ystod ei ddyddiau cynnar fel gŵr busnes.
Cafodd Harold Lowe o'r Bermo, Pumed Swyddog y Titanic, brentisiaeth Gymreig. Anfarwolwyd ef gan Ioan Gruffudd yn ffilm James Cameron o 1997.

Harold Lowe (chwith) oedd un o'r pedwar swyddog a oroesodd y trasiedi
Cychwynnodd o ddifrif ar yr Aeron Lass, sgwner o Aberarth. Yn ddiweddarach, ymunodd â chwmnïau Lerpwl, yr Alfred Holt a'r Elder Dempster.
Gelwid yr Alfred Holt Line, neu'r Blue Funnel Line yn 'Welsh Navy' oherwydd bod cymaint wedi ymuno â hi o bentrefi arfordirol gogledd-orllewin Cymru, ac ni ellir anghofio mai Cymro o Gaerfyrddin oedd Syr Alfred Lewis Jones, pennaeth yr Elder Dempster.

Frederick Fleet a welodd y mynydd iâ, ond yn rhy hwyr i'r Titanic i'w osgoi
Roedd Frederick Fleet, a oedd yn y Crow's Nest wrth i'r Titanic daro'r mynydd rhew, ar y Clio ger Bangor yn ôl Cyfrifiad 1901.
Roedd His Majesty's Industrial Training Ship Clio yn codi ofn ar blant yng Nghymru a thu hwnt, gan mai hon oedd y llong 'hogiau drwg'. Roedd yn 'achub' lladron, anffodusion, tlodion a'r rhai a ystyrid yn gymdeithasol annerbyniol, a'u derbyn ar ei bwrdd er mwyn eu disgyblu, dysgu gwerthoedd a sut i fihafio.
Roedd Ynadon, cyn belled â Chaerfyrddin yn bygwth y Clio ar blant, ac un yn dweud ar ôl dedfrydu cosb o ddirwy am ddwyn - "this is the last time I shall be merciful, should we meet again it's the Clio for you, boy".

Aeth Frederick Fleet o long yr 'hogiau drwg', y Clio, i'r Titanic - 'llong breuddwydion'... a drodd yn hunllef
Y dyn nad oedd yno...
Ymddangosodd llun Joseph Evans o Dreffynnon yn y papurau newydd fel llun o'r criw a gollwyd ar y Titanic, ond ni fu ef ar gyfyl y llong.
Yn gynnar yn ei fywyd symudodd i Gaernarfon ac ymunodd â'r White Star Line yn 1891. Buan iawn y gwelodd ei hun yn brif swyddog yr Olympic, chwaer-long y Titanic, a hynny am un fordaith yn unig, ond daeth y penodiad hwnnw â pheth anfarwoldeb iddo.

(o'r chwith) William McMaster Murdoch (Swyddog Cyntaf); Joseph Evans (Prif Swyddog); David Alexander (Pedwerydd Swyddog); Capten Edward John Smith - bu farw William Murdoch a Chapten Smith ar y Titanic, ond mae'r llun yma o fordaith gyntaf yr Olympic yn 1911
Mae academydd, Hermann Soeldner wedi awgrymu bod prinder lluniau o swyddogion y Titanic wedi'r drychineb a bod y llun hwn, a dynnwyd yn Southampton cyn i'r Olympic adael ar ei thaith gyntaf i Efrog Newydd ar 14 Mehefin 1911, ar gael yn weddol ddidrafferth.
Tynnwyd y llun pan oedd Joseph Evans yn brif Swyddog i Edward John Smith, a William McMaster Murdoch yn Swyddog Cyntaf ar yr Olympic. Wedi'r cyfan, roedd yr Olympic bron yn union yr un fath a'r Titanic a'r ddau swyddog a gollwyd yn rhan o'r llun.
Cynnig help
Roedd Arthur Ernest Moore yn felinydd a dyfeisydd o'r Coed Duon, ac yn ŵr eithaf ecsentrig. Dyfeisiodd feic iddo allu ei reidio ar ôl colli ei goes mewn damwain yn y felin.
Roedd wedi dotio ar y Radio Marconi, ac wedi adeiladu set yn llofft y felin. Arni, clywodd un o alwadau radio olaf y Titanic o ganol yr Iwerydd.

Doedd neb yn coelio Artie Moore pan glywodd am y Titanic yn galw am help dros y radio
Ar hynny, aeth i'r orsaf Heddlu leol i ddweud y newyddion, ond cafodd rybudd y byddai'n cael ei arestio am fod yn 'lunatic'.
Er gwaethaf hyn oll, profwyd Artie yn iawn, ac yn ddiweddarach, fe gafodd ysgoloriaeth gan Fwrdd Addysg Sir Fynwy i fynd i astudio yn y British School of Telegraphy a swydd gan Marconi.

Thomas William Jones oedd yn gyfrifol am gwch achub rhif wyth - daeth yn ffrindiau â'r Countess of Rothes, a oedd ar y cwch
Roedd Thomas William Jones yn Able Seaman ar y Titanic. Aeth i'r môr gyda'i dad yn cario brics coch o Amlwch i Lerpwl.
Ar noson y drychineb, rhoddwyd y cyfrifoldeb o gwch achub rhif wyth i Jones. Bu'n dyst i ffrae rhwng gŵr a gwraig oedrannus, Isador ac Ida Straus, yn ôl bob tebyg, ac ni adawodd yr un o'r ddau gydag ef.
Yn y cwch achub, gwnaeth Jones ffrindiau am oes â'r Countess of Rothes, ac fe roddodd rif y cwch achub iddi ar blac, am iddi helpu i lywio'r cwch mor dda.
Gwrthododd Twm arian gan y Iarlles am achub ei bywyd, ond cytunodd i dderbyn lampau paraffin i Gapel Tregele. Bu'r ddau yn ffrindiau mynwesol am weddill eu bywydau.
Y teithwyr
Dau oedd yn deithwyr trydydd dosbarth ar y Titanic oedd David John Bowen a Leslie Williams, y naill o Dreherbert, a'r llall o Donypandy. Roedd y ddau ar eu ffordd ar daith focsio, diolch i gontract rhwng Frank Torreyson a Charles Barnett.

Bu farw'r bocsiwr David John Bowen ar y Titanic - mewn llythyr at ei fam yn dyddio o 11 Ebrill, dywedodd fod y llong 'bron mor fawr â Threherbert'
Nid nhw oedd y ddau gyntaf a ddewiswyd i fynd allan yno, ac roeddent i fod i deithio ar y Lusitania wythnos ynghynt, ond drwy ffawd creulon, bu i'r ddau ganfod eu hunain ar y Titanic, a collasant eu bywydau.
Cafodd cynnwys yr erthygl yma ei gyhoeddi yn wreiddiol ym mis Ebrill 2025.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023