Carchar am 13 mlynedd i athro mosg am ymosodiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae athro 81 oed o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i 13 mlynedd o garchar am ymosodiadau rhyw ar bedair merch mewn mosg.
Roedd Mohammed Haji Sadiq wedi ymosod ar y plant wrth iddo gynnal gwersi astudio'r Coran.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi "manteisio ar ei sefyllfa" ac roedd wedi cyffwrdd â'r merched yn amhriodol fel ffordd o ddisgyblu'r plant.
Cafwyd Sadiq yn euog o'r troseddau yn dilyn achos ym mis Mehefin.
Yn ôl y dystiolaeth roedd yn cam-drin y plant os oedden nhw'n gwneud camgymeriad wrth ddarllen y Coran.
Degawd o droseddu
Fe ddigwyddodd y troseddu dros gyfnod o ddegawd rhwng 1996 a 2006 yn Mosg Madina yn Ffordd Woodville, Caerdydd.
Clywodd y rheithgor yn ei achos fod Sadiq yn defnyddio ffon i daro'r plant, ac y byddai'n bygwth ei ddisgyblion ifanc.
Cafwyd y cyn-athro yn euog o 14 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar blant ac yn ddieuog ar un cyhuddiad.
Bu Sadiq yn dysgu yn y mosg am 30 mlynedd hyd nes 2006 pan gaeodd yr adeilad yn dilyn tân.
Bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.
Ymateb
Yn ôl y detectif Arolygydd Rob Cronick o Heddlu'r De roedd y merched wnaeth roi tystolaeth yn "hynod o ddewr."
Ychwanegodd y gallai'r canlyniad a'r ddedfryd arwain at eraill i deimlo'n ddigon hyderus i siarad gyda'r heddlu.
Dywedodd Mike Jenkin o Wasanaeth Erlyn y Goron bod y menywod yma wedi dangos dewrder mawr yn siarad am y ffordd y gwnaethon nhw ddioddef pan oedden nhw'n ferched ifanc.
"Roedd Sadiq yn ffigwr oedd yn cael ei barchu yn y gymuned, gydag awdurdod a dylanwad sylweddol sy'n golygu bod eu dewrder yn rhywbeth i'w edmygu."
Mae Cyngor Moslemiaid Cymru wedi dweud: "Rydym yn cymeradwyo dewrder y menywod ifanc, sydd nawr fel oedolion wedi dilyn yr achos er mwyn cael cyfiawnder."
"Mae gan bob mosg yng Nghymru, bolisi amddiffyn plant mewn lle, ac mae athrawon a gwirfoddolwyr yn cael eu monitro yn ofalus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017