Plentyndod trawmatig yn 'dyblu defnydd o'r GIG'

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl sy'n dioddef plentyndod trawmatig dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau iechyd sylfaenol, yn ôl ymchwil newydd.

Fe wnaeth Prifysgol Bangor gyfweld tua 2,000 o bobl yng Nghymru a 5,400 o bobl yn Lloegr fel rhan o'r arolwg.

Y canfyddiad oedd fod pobl gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ddwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio unedau brys neu weld eu meddyg teulu.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis o'r brifysgol ei bod yn "hanfodol" bod y problemau sy'n cael eu hachosi gan blentyndod trawmatig yn cael eu cydnabod.

Mae'r darganfyddiadau'n cyd-fynd ag arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y llynedd, wnaeth ddarganfod bod plant sy'n cael eu magu mewn amgylchiadau ble mae cam-drin neu drais domestig yn llawer mwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd hirdymor.

'Cyffredin'

Mae ymchwil Prifysgol Bangor hefyd yn awgrymu bod profiadau trawmatig yn "gyffredin", gyda 10% o'r rheiny gafodd eu holi yn dweud eu bod wedi profi o leiaf pedwar profiad niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae profiadau trawmatig yn cynnwys cam-drin corfforol, rhyw neu emosiynol, neu straen arall fel byw mewn cartref sydd yn cael ei effeithio gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y rhai gyda phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dangos lefelau "llawer uwch" o ddefnyddio gofal iechyd hyd yn oed fel oedolion ifanc (18-29 oed).

Dywedodd yr ymchwil gan Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor bod y cynnydd hwn yn dal yn amlwg ddegawdau'n ddiweddarach.

Roedd 12% o oedolion ifanc oedd heb gael unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod medi ymweld ag uned frys yn y flwyddyn ddiwethaf, o'i gymharu â 29% mewn oedolion ifanc gyda phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol.

Erbyn 60-69 oed roedd 10% o unigolion heb unrhyw brofiadau trawmatig angen o leiaf un arhosiad dros nos yn yr ysbyty yn y flwyddyn ddiwethaf, ond roedd y ffigwr yn codi i 25% ymysg y rhai oedd ag o leiaf pedwar profiad niweidiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Mark Bellis bod angen "cymryd agwedd gydol oes at iechyd"

Dywedodd cydawdur y papur, yr Athro Karen Hughes, bod y risg i oedolion fod yn ysmygwyr neu yfwyr trwm a datblygu canser, diabetes a chlefydau eraill sy'n peryglu bywyd oll yn cynyddu mewn pobl sydd â hanes o brofiadau niweidiol mewn plentyndod.

Mae'r ymchwilwyr yn dweud y gall buddsoddi mewn atal neu leihau profiadau niweidiol mewn plentyndod, yn ogystal â mynd i'r afael â'r trawma o ganlyniad i brofiadau o'r fath, helpu i leihau costau a'r galw ar y gwasanaeth iechyd.

'Agwedd gydol oes'

Dywedodd yr Athro Bellis: "Mae plentyndod a magwraeth ddiogel yn rysáit ar gyfer adeiladu plant cryfach, hapusach, gyda llawer mwy o siawns o fod yn oedolion iach.

"Wrth i gostau gofal iechyd gynyddu yn y DU a thramor, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd agwedd gydol oes at iechyd sy'n cydnabod bod y problemau a welwn yn aml mewn oedolion wedi dechrau gyda thrawma yn ystod plentyndod."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod y dystiolaeth o'r effaith negyddol y mae profiadau trawmatig yn ei gael yn "ysgubol" a'i fod yn "gweithio'n ddiflino" i atal a lleihau'r effaith hirdymor ar blant sydd wedi eu profi.