Canu'r anthem gyda Coldplay

  • Cyhoeddwyd

Mae'r band Coldplay, oedd yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd nos Fawrth, wedi rhyddhau fideo o Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu ar ddiwedd eu cyngerdd, dolen allanol.

Elin Hughes o Lanybydder sy'n fyfyrwraig ar gwrs BA Perfformio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd oedd un o'r ddau lwcus gafodd ei dewis i fynd ar y llwyfan, i ganu gyda un o fandiau mwya'r byd. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Elin i gael yr hanes:

Disgrifiad o’r llun,

Y cantorion Elin Hughes a James Jones gyda Coldplay ar y llwyfan

Sai'n meddwl bod e dal wedi sinco mewn y bore 'ma fy mod i wedi canu gyda Coldplay ar y llwyfan neithiwr! Falle taw heno fydd e'n taro fi, gan bo fi'n canu gyda nhw eto yn y Stadiwm.

Fe wnaeth rhywun o dîm Coldplay gysylltu gyda Eilir Owen-Griffiths, cydlynydd y cwrs. Am 10:30 o'r gloch bore ddoe ges i'r gwahoddiad i fynd i ganu, ac erbyn 2:30pm o'n i ar fy ffordd i'r Stadiwm am soundcheck!

D'on i ddim yn nerfus o gwbl, jyst yn teimlo 'waw mae hyn mor gyffrous'. O'n i'n meddwl y bysen i'n lot fwy nerfus cyn troedio ar y llwyfan, ond o'n i mor gyffrous ac yn mwynhau'r profiad gymaint d'on i ddim yn teimlo'r nerfau. Rwy' wedi gweld y fideo, ac yn meddwl pa mor amazing yw'r gynulleidfa. Pan dwi'n gwrando ar fy hunan yn canu, dwi'n barnu fy hunan a mo'yn 'neud yn well heno!

R'on i mor gyffrous i gwrdd â Chris Martin a gweddill y band. Roedden nhw ychydig yn hwyr ar gyfer y soundcheck, achos roedden nhw'n styc mewn traffig ar yr M4 gan bod cymaint o draffig yn dod i'w cyngerdd! Ond wedyn y peth cynta' weles i a James Jones [arweinydd Côr y Rhos oedd yn canu gyda Elin], oedd Chris Martin yn dod lan y tu ôl i ni! Roedd e mor gyfeillgar, yn rhoi lot o compliments i ni ac yn gefnogol iawn.

'Profiad anhygoel'

Roedd Coldplay yn canmol Cymru ac yn dweud bod cynulleidfa Caerdydd yn anhygoel, trwy'r nos. Dywedon nhw eu bod nhw wedi eisiau perfformio'r anthem ar ddiwedd y gyngerdd, ac wedi trial ei dysgu eu hunain, ond erbyn nos Lun penderfynon nhw bod angen cael rhywun mewn i'w chanu ar eu rhan, a dyna pryd wnaethon nhw gysylltu â Eilir.

Fe fyddai'n mynd nôl heno, a dwi mor gyffrous i gael y cyfle i berfformio eto. Mae fy ffrindie, teulu a phawb ar y cwrs wedi bod mor gefnogol ac yn dweud eu bod nhw mor browd. Mae'n brofiad anhygoel!