Llofruddiaethau Clydach: Dim apêl yn achos David Morris
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn a gafodd ei garcharu am lofruddio pedwar o bobl yng Nghlydach yn 1999 wedi clywed ei bod hi'n annhebygol y bydd ei achos yn cael ei ystyried yn y Llys Apêl.
Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Cyfreithiol wedi rhoi gwybod i David Morris bod penderfyniad i beidio cyfeirio'r achos ar gyfer apêl, er gwaetha' blynyddoedd o ymgyrchu gan ei deulu.
Cafodd y gŵr 54 oed ei garcharu am oes am lofruddio Mandy Power, ei dwy ferch fach - Katie, 10, ac Emily, wyth, - a'i mam 80 oed, Doris Dawson yn eu cartref yn 1999.
Mae Morris yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog, ac mae ei gyfreithwyr wedi bod yn casglu tystiolaeth newydd er mwyn apelio.
Cafodd cyrff Mandy Power, Katie, Emily a Doris Dawson eu darganfod wedi tân yn eu cartref ar Kelvin Road yng Nghlydach.
Roedd y pedair wedi cael eu llofruddio gyda pholyn.
Yn 2006 cafwyd David Morris o Graigcefnparc yn euog o'u llofruddio mewn ail achos llys, ar ôl i'r dyfarniad gwreiddiol yn 2002 gael ei ddiddymu.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Adolygu Achosion Cyfreithiol eu bod nhw'n "dal i ystyried yr achos, ond bod Mr Morris wedi cael rhybudd dros dro na fydd ei achos yn cael ei anfon ymlaen at y panel apêl".
Mae gan ei gyfreithwyr ddau fis i gyflwyno gwybodaeth bellach allai, yn eu týb nhw, ddylanwadu ar y penderfyniad hwn.
Ychwanegodd y llefarydd: "Fodd bynnag, mae ganddo gyfle dros y deufis nesa i gyflwyno dadleuon eraill."