Pleidlais unfrydol dros brynu Tafarn Sinc

  • Cyhoeddwyd
Tafarn SincFfynhonnell y llun, BBC

Mewn cyfarfod yn Sir Benfro nos Fercher, fe bleidleisiodd dros 100 o bobl dros brynu tafarn er mwyn ei rhedeg fel menter gymunedol.

Cafodd y cyfarfod ei alw gan bapur bro lleol Clebran wedi'r newyddion fod Tafarn Sinc ym mhentref Rhosybwlch (Rosebush) ger Maenclochog ar werth.

Mae'r dafarn ar werth am £295,000 ers peth amser, ac os na fydd yn gwerthu cyn Mis Hydref, mi fydd yn cau.

Y cynnig yn y cyfarfod oedd i bobl brynu cyfran am £200 yr un.

Disgrifiad o’r llun,

Pobl leol yn pleidleisio dros brynu cyfrannau yn Nhafarn Sinc mewn cyfarfod nos Fercher

Un a oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd y Parchedig Emyr Arwyn Thomas: "Mae nifer o gapeli a thafarndai wedi cau dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'n bleser calon gweld un yn dechrau o'r newydd eto, a finne fel cadeirydd papur bro Clebran yn cynnig bod y lle yn dal ar agor.

"Mae yna gyfle bellach i Gymry, cenedlaetholwyr, a chymdeithasegwyr a phob un i fynd i Dafarn Sinc, a dwi'n hyderu'n ddirfawr y can nhw gefnogaeth gyda'r Cymreigrwydd sydd yn Nhafarn Sinc a'r croeso yn ogystal.

"Mae'n dda calon gweld nifer helaeth o ddysgwyr a'r di-Gymraeg yn cymryd rhan yn y prosiect yma, ac y byddan nhw hefyd yn cefnogi ac yn Cymreigio'u hunain gyda'u cynrychiolaeth nhw a'u presenoldeb nhw yn Nhafarn Sinc yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tafarn Sinc ei hadeiladu ym 1877

Hefyd yn bresennol roedd y cynghorydd Chris Thomas, sy'n ymgynghori ar redeg mentrau cydweithredol: "Roedd 'na drafodaeth ar un adeg, ble roedd perygl fod y costau'n ormod, ond roedd pobl yn fodlon rhoi eu dwylo yn eu pocedi a talu am y gwaith hynny hefyd. Roedd yn galonogol tu hwnt.

"Roedden ni'n galw am aelodau i'r bwrdd ac mae nifer fawr wedi dod ymlaen sy'n barod i fod yn rhan o'r gweithgareddau i sicrhau fod y dafarn yn saff a bod gobaith ei ddatblygu am y dyfodol."

Hwn oedd y cyfarfod cyntaf i drafod y fenter, ac mae'r trefnwyr yn dweud y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ganol mis Awst.