Ateb y Galw: Rhys Aneurin
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r artist Rhys Aneurin sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Dafydd Hughes yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Eistedd ar lawr y cyntedd fy nghartref yn chwarae gyda cheir Matchbox. Allai gofio patrwm y lino yn glir.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Shania Twain!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n ffan enfawr o Thunderbirds pan o'n i'n fach (dwi dal yn) ac o'n i eisiau bod yn Alan Tracy a gyrru'r roced goch (Thunderbird 3). Ac wel, o ganlyniad, pan yn ymuno â dosbarth derbyn Ysgol Gynradd Llanfairpwll am y tro cyntaf, ddaru mi benderfynu newid fy enw o Rhys i Alan.
Roedd yr athrawes wedi fy nghoelio ac wedi newid fy enw ar gofrestr yr ysgol a phopeth, felly cafodd fy rhieni tipyn o fraw pan athon nhw i'r noson rieni cyntaf a chlywed fod Alan yn g'neud yn dda iawn. Roedd yna lot o chwerthin ar fy mhen (am flynyddoedd), ac roedd yr athrawes yn poeni amdana i braidd. Embaras llwyr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Wythnos dwytha'.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes - ond am y rhai amlwg megis smocio, yfed gormod a rhegi, mae gen i'r arferiad rhyfedd o ddweud "sori?" neu "pardwn?" er i mi glywed y cwestiwn ma' rhywun yn ofyn i mi yn berffaith glir. A sgenai'm syniad pam dwi'n 'neud o.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae'n newid, yn dibynnu ar sut dwi'n teimlo. Ffordd Farrar oedd o, hen stadiwm tîm pêl-droed Bangor - ond yn anffodus, fel mae pawb yn gwybod, mae'r safle bellach yn Asda.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Wedi cael sawl un anhygoel.
Aethon ni i Aberystwyth i ddathlu fy mhen-blwydd yn 25, ac roedd fy ffrindiau hyfryd wedi heirio bocs yng Nghoedlan y Parc i ni wylio fy annwyl Bangor City yn chwarae Aber, gydag oergell mawr yn llawn bŵs. Roedd chwarae'r pafiliwn yr Eisteddfod haf dwytha yn noson sbeshal hefyd. W, a'r noson esh i ag Ani allan am y tro cyntaf.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Teyrngar, sentimental, creadigol.
Beth yw dy hoff lyfr?
Tintin. Caru nhw i gyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
George Harrison. Dyn mor ddiddorol, oedd wedi gweld cymaint.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
The Red Turtle, ffilm animeiddiedig ddaru Studio Ghibli gynhyrchu ar y cyd gyda Wild Bunch. Ddaru mi fwynhau o - roedd o'n edrych ac yn swnio'n hyfryd.
Ar dy diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti yn ei wneud?
Mynd allan i sketchio am 'chydig, gwylio adar, gwylio pêl-droed, wedyn meddwi gyda fy nghyfeillion.
Dy hoff albwm?
Blur - 13, neu Portishead - Dummy.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?
Prif gwrs pob tro. Risotto madarch.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Solange!
Pwy fydd yn ateb y galw yr wythnos nesa?
Rhys Iorwerth