Pryder am gapeli'n cau ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae prinder gweinidogion a chynulleidfaoedd yn gostwng wedi arwain enwad y Presbyteriaid ar Ynys Môn i annog capeli i gydweithio er mwyn talu cyflog gweinidog.
Serch hynny, mae'n ymddangos fod nifer o eglwysi ar yr ynys yn amharod i gydweithio, ac o ganlyniad i hynny, mae llawer o gapeli yn cau.
Mae pedwar capel wedi cau yn barod eleni ac mae yna drafodaethau ynglŷn â dyfodol pump arall.
Mae un o bwyllgorau'r Henaduriaeth wedi annog eglwysi i dalu ar y cyd i gael gweinidog, ond mae aelodau rhai capeli eisoes wedi pleidleisio i wrthod gwneud hynny.
Capeli'n cau
Mewn un gornel o Ynys Môn sydd, mae pedwar capel wedi cau eleni - Llanfaethlu, Llanfechell, Porth Amlwch a Phen Gorffwysfa - a'r pryder yw y bydd rhagor yn dilyn.
Er hynny, cyndyn ydi'r ffyddloniaid i gydweithio efo capeli eraill cyfagos i wynebu'r dyfodol.
Ond mae rhai capeli yn llwyddo oherwydd gweledigaeth radical rhai o'r aelodau. Ym Modffordd, codwyd capel newydd sbon yn 2010, ond mae'r blaenor yno Elis Wyn Roberts yn dweud fod yna geidwadaeth o fewn yr eglwysi sy'n mygu datblygiad.
"Mae'r waliau a'r mortar a'r cerrig yn cael mwy o sylw nag ydi gwaith yr Arglwydd Iesu Grist," meddai. "Rydan ni'n aros yn ein hunfan, mae rhaid i ni roi mwy o gyfle i'n pobol ifanc a rhaid i ni gael gweithwyr ifanc ac mae rhaid i ni'r bobol hyn dderbyn hynny .... mae'r adeiladau yna ond mae rhaid eu newid nhw."
Daeth cais i aelodau capel Lon y Felin, Llangefni i dalu ar y cyd am weinidog hefo capeli yn Llanfairpwll a Gaerwen, ond mi ddaru tri chwarter aelodau'r capel bleidleisio i wrthod cydweithredu, penderfyniad oedd yn siom i ysgrifennydd yr eglwys Ken Hughes.
Y gost ychwanegol oedd yn poeni'r aelodau medda fo.
"Dwi'n meddwl y buasen ni wedi medru cael gweinidog petae ni wedi aberthu rhywfaint, mater o flaenoriaethau ydi o. Mae'r penderfyniad yn fy nhristau fi," dywedodd.
Mae pob aelod o'r Presbyteriaid yn talu £139 i'r swyddfa yng Nghaerdydd os oes gweinidog yn eu heglwys, £91 os nad oes, ac mae rhai yn cwestiynu pam fod angen talu o gwbwl, ac y gellid defnyddio'r arian i gynnal achosion yn lleol.
Arian
Mae Walter Glyn Davies yn flaenor yng nghapel Rehoboth, Burwen ger Amlwch. "Mi faswn i, a dwi'n un o lawer, yn licio gwbod be sy'n digwydd i'n harian ni sy'n mynd i Gaerdydd bell," meddai.
"Petae'r swyddfa yng Nghaerdydd yn cau fory nesa, barn yr aelodau ydi y buasai gwasanaeth yn y capeli y bore wedyn 'run fath yn union. Mae yna deimladau cryf iawn fod Caerdydd yn sugno arian."
Dywedodd llefarydd ar ran y Presbyteriaid: "Yr ydym yn deall fod Henaduriaeth Môn wedi cynnal nifer o gyfarfodydd yn ddiweddar i geisio ymateb i realiti ystadegol a demograffaidd ein heglwysi ar yr ynys.
"Cafwyd sgyrsiau calonogol, a gobeithio y bydd arweinwyr yr eglwysi lleol yn perchnogi y trafodaeth a'r awgrymiadau.
"Mae Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn adolygu'n flynyddol y lefel o gefnogaeth sydd angen ar ein heglwysi a'n llysoedd o gyfeiriad y Swyddfa Ganolog".