Lynnette White: 'Camgymeriad dynol' yn diddymu achos
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad annibynnol wedi dod i'r casgliad mai "camgymeriadau dynol" arweiniodd at ddiddymu achos yn erbyn wyth cyn swyddog gyda Heddlu'r De fu'n rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White.
Cafodd y dynion eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, am eu rhan yn arestio ac erlyn pump dyn am lofruddio Ms White yng Nghaerdydd ym 1988.
Cafodd ei thrywannu dros 50 o wetihiau mewn fflat yn ardal y dociau.
Fe gafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu ar gam, a hynny am oes yn 1990, cyn i'r tri gael eu rhyddhau yn 1992.
Ond daeth yr achos yn erbyn y swyddogion heddlu i ben heb ganlyniad yn 2011.
'Sawl methiant dynol'
Daeth adroddiad Richard Horwell QC i'r casgliad nad oedd ymdrech fwriadol i gelu unrhyw drosedd.
Yn hytrach, mae'n beio'r sefyllfa ar "sawl methiant dynol".
Mae'r adroddiad yn cynnwys 17 argymhelliad i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i wella'r broses o ddatgelu tystiolaeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd fod y casgliadau'n achos pryder mawr, ond ychwanegodd ei bod yn falch fod y ffaeleddau wedi dod i'r wyneb.
"Bydd y Swyddfa Gartref yn ysgrifennu at yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddwyn eu sylw at argymhellion yr adroddiad, a rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn gweithredu arnyn nhw."