Sesiwn Fawr Dolgellau'n dathlu chwarter canrif

  • Cyhoeddwyd
Sesiwn FawrFfynhonnell y llun, @SesiwnFawr

Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i Ddolgellau dros y penwythnos wrth i'r Sesiwn Fawr ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 1992 gan griw o wirfoddolwyr oedd am drefnu gŵyl gerddorol ar strydoedd Dolgellau, a hynny yn rhad ac am ddim.

O fewn rhai blynyddoedd roedd Sesiwn Fawr Dolgellau wedi tyfu i fod yn un o wyliau mwyaf Cymru.

Mae'r holl docynnau ar gyfer yr ŵyl eisoes wedi'u gwerthu - y tocynnau penwythnos, nos Wener, dydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae pob llety yn y dref ar gyfer y penwythnos yr ŵyl wedi'u llenwi ers dechrau'r flwyddyn, ac mae gwersyll swyddogol Sesiwn Fawr yn llawn hefyd.

"Mae'n edrych fel y bydd hi'n benwythnos hynod o brysur," meddai Dafydd Hughes, swyddog datblygu'r ŵyl. "Mae'r tocynnau i gyd wedi mynd."

Disgrifiad,

Mae "digon yn digwydd" i'r rheiny heb docynnau, medd Dafydd Hughes

Mae cannoedd o artistiaid wedi perfformio yn yr wŷl dros y 25 mlynedd diwethaf, gan gynnwys y Super Furry Animals, Bryn Fôn, Geraint Jarman, Cerys Matthews a Goldie Lookin Chain.

Eleni, bydd bandiau fel Bob Delyn a'r Ebillion a Sŵnami yn diddanu'r dorf nos Wener, a'r Eira, Sorela ac Alys Williams nos Sadwrn.

"Ond mae 'na dal lot yn digwydd trwy weddill y dref dros y penwythnos, felly i'r bobl sydd heb docynnau, mae 'na ddigon yn digwydd ac mae 'na adloniant am ddim hefyd," meddai Dafydd.

"Mae 'na bethau hefyd ymlaen mewn tafarndai ac yn Nhŷ Siamas a ballu hefyd, felly mi fydd modd i bobl fynychu'r digwyddiadau yna."

'Siwrne ddiddorol'

Mae Sesiwn Fawr ar dir sefydlog erbyn hyn, ond dyw hi ddim wedi bod yn chwarter canrif hawdd i'r trefnwyr.

Aeth yr ŵyl i broblemau ariannol ar ôl i dywydd gwael gael effaith enfawr ar werthiant tocynnau yn 2007 a 2008.

Oherwydd hynny, ni chafodd yr ŵyl ei chynnal yn 2009, ac roedd gŵyl llawer llai dan enw Sesiwn Fach yn 2010 cyn i'r Sesiwn Fawr ddychwelyd ar ei newydd wedd yn 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sesiwn Fawr yn denu tua 5,000 o bobl pobl blwyddyn yng nghanol y 2000au

Dywedodd un o sylfaenwyr yr ŵyl, Ywain Myfyr, sy'n dal i helpu trefnu'r Sesiwn Fawr hyd heddiw: "Mae hi wedi bod yn siwrne digon diddorol dros y blynyddoedd.

"Mae hi wedi bod i fyny ac i lawr ond dydy rhywun ddim yn cofio'r amseroedd drwg a dweud y gwir. Mae rhywun yn cofio'r penwythnosau gwych o gerddoriaeth fendigedig.

"Yr hyn 'dan ni wedi'i wneud mewn gwirionedd ydy adennill y Sesiwn. Fe gawsom ein problemau, yn rhannol oherwydd y tywydd, ond mi oedd y Sesiwn hefyd yn y cyfnod yna wedi tyfu tu hwnt i'n rheolaeth mewn ffordd.

"Ond mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn. Mae gennym ni bwyllgor ifanc, brwdfrydig, ac mae eu brwdfrydedd nhw yn heintus, ac mae 'na syniadau cyffrous at y dyfodol."