Cyngor Sir Ddinbych am werthu Castell Bodelwyddan
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r awdurdod lleol yn Sir Ddinbych werthu un o atyniadau twristiaeth amlyca'r ardal.
Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn trafodaethau gyda pharti dienw dros ddyfodol Castell Bodelwyddan, sy'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan ymddiriedolaeth.
Mae'r BBC wedi gofyn i'r cyngor am sylw.
Ym mis Mawrth dywedodd y cyngor eu bod yn torri grant blynyddol yr ymddiriedolaeth o £144,000, a hynny o'r flwyddyn nesaf.
Yn sgil hynny, fe dorrodd yr ymddiriedolaeth ei chysylltiadau â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol, gyda'i chasgliad o 130 o baentiadau yn cael eu dychwelwyd ym mis Ebrill.
Fe gafodd saith aelod o staff yr ymddiriedolaeth eu diswyddo hefyd.
Defnyddiwyd y castell fel ysbyty i filwyr clwyfedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn ei drawsnewid yn ysgol breifat i ferched, a gaeodd yn 1982.
Ynghyd â'r castell, bydd y gwerthiant yn cynnwys lawntiau, arena digwyddiadau a choetiroedd. Bydd y cyngor yn cadw'r coetir a'r parcdir sy'n cynnwys ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gyferbyn â'r amgueddfa a'r oriel yn y castell, mae gwesty a gafodd ei uwchraddio yn ddiweddar.
Mae'r gwesty yn cael ei redeg gan Grŵp Warner sy'n dweud bod "trafodaethau'n parhau" â Chyngor Sir Ddinbych am ddyfodol y castell.