Côr Merched Sir Gâr yn ail yn Eurovision y corau
- Cyhoeddwyd
![Cor Merched Sir Gar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1DB5/production/_97050670_choir.jpg)
Mae 42 o ferched yn aelodau o'r côr, gafodd ei sefydlu pum mlynedd yn ôl
Fe ddaeth Côr Merched Sir Gâr yn ail yng nghystadleuaeth Corau Eurovision yn Latfia nos Sadwrn.
Dyma'r tro cyntaf erioed i gystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision gael ei chynnal, gyda dinas Riga wedi'i dewis fel y lleoliad cyntaf i'w llwyfannu.
Côr Carmen Manet o Slofenia oedd yn fuddugol nos Sadwrn, gyda chôr Spīgo o Latfia yn drydydd.
Fe wnaeth Côr Merched Sir Gâr sicrhau mai nhw fyddai'n cynrychioli Cymru wrth ennill cystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill eleni.
Mae gan y côr, sy'n bodoli er pum mlynedd, 42 o aelodau o oedrannau amrywiol ysgol uwchradd.
![Islwyn Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/D04A/production/_97022335_islwynevans.jpg)
Islwyn Evans yw arweinydd Côr Merched Sir Gâr
Fel rhan o reolau'r rownd derfynol roedd y corau'n perfformio rhaglen chwe munud o hyd.
Roedd y perfformiad yn cael cynnwys unrhyw genre oedd yn cynrychioli "cymeriad eu rhanbarth neu eu gwlad".
Hefyd yn cystadlu yn yr Eurovision oedd corau o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen a Hwngari.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2017