Ateb y Galw: Rhys Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Y bardd a'r awdur Rhys Iorwerth sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhys Aneurin yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Rywle yng nghrombil fy mhen rydw i'n rhedeg ar hyd y coridor yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, ym mis Ionawr 1985. Roedd fy mrawd bach newydd gael ei eni a finnau'n nesu at fy nwyflwydd. Dyma nyrs yn fy mhasio ar dop y grisiau.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Eluned, cariad Twm Siôn Cati yn y nofelau gan T. Llew Jones.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rydw i'n codi cywilydd arnaf fy hun yn rheolaidd drwy anghofio enwau babis a phlant fy ffrindiau.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Doedd y dagrau ddim yn bell wrth edrych ar bennod ola Rownd a Rownd yn ddiweddar. Mr Lloyd, druan. Felly hefyd yn Lyon fis Gorffennaf y llynedd, ar ôl bod allan yn Ffrainc am 31 diwrnod gorau fy mywyd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mi fydd fy meddwl yn aml yn crwydro pan fydd pobl yn trio siarad efo fi, a finnau'n llwyddo i'w hanwybyddu hyd yn oed pan fydd y sgwrs yn ddiddorol.
Dy hoff le yng Nghymru?
Caernarfon.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ryw nos Sul yn y Canton Hotel, Caerdydd, flynyddoedd mawr yn ôl. Roedd y carioci ar ei anterth a doedd fy ngwallt heb ddechrau britho ar y pryd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Sgwennwr; wannabe seiclwr.
Beth yw dy hoff lyfr?
Dyddiadur Dyn Dŵad.
Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Yn bendant, Cyril Boyd Hughes, fy nhad-cu o Faesteg, a fuodd farw pan oeddwn i'n chwech oed. Roedd o'n hoff o fynd am beint ac yn gymeriad a hanner. Mi faswn i wedi licio dod i'w nabod o'n well.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n feddwl?
Mi wnes i wylio Goodfellas am yr ugeinfed tro neu fwy ar ôl noson allan yn ddiweddar. Yn bennaf er mwyn clywed y darn cerddoriaeth o Layla, un o fy hoff ddarnau o ffilm erioed.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti yn ei wneud?
Marw am wn i, ia? "Dydd byr yw pob diwedd byd." Ond cyn hynny, ymddiheuro wrth bawb yr anghofiais eu henwau, wedyn mynd i'r Black Boy am beint. Diweddglo Layla ar y jiwcbocs ac aros yno tan y byddai'r awr fawr yn dyfod.
Dy hoff albwm?
Yn fy ieuenctid beryg fy mod i wedi gwrando ar What's the story, morning glory? gan Oasis yn fwy nag ar yr un albwm arall. Felly hwnnw mae'n siŵr.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?
Prif gwrs. Sbageti bolonês Siwan fy nghariad, cinio dydd Sul cig oen, neu beef curry ac egg fried rice o'r Golden Lion lawr y lôn. Yn dibynnu ar fy hwyliau.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Geraint Thomas, y seiclwr. Uffar o foi iawn a swn i'n hoff o allu reidio i fyny o Nantlle i Ddrws y Coed heb ddiffygio'n lân.