Argymell ymestyn rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dylid ymestyn rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn gorff strategol cenedlaethol ar gyfer datblygu'r Gymraeg, yn ôl adolygiad o rôl y coleg.

Mae adroddiad newydd, sydd wedi ei lunio gan grŵp ar ran Llywodraeth Cymru, hefyd yn pwysleisio y dylid ymestyn rôl y coleg ar gyfer addysg bellach, a dysgu'n seiliedig ar waith.

Fis Awst y llynedd fe gyhoeddodd y llywodraeth adolygiad o rôl y coleg cyn i unrhyw benderfyniadau gael ei gwneud am bolisïau a chyllid yn y dyfodol.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi croesawu'r adroddiad, ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am sicrhau y bydd y coleg yn cael adnoddau i weithredu'r argymhellion.

Ehangu rôl y coleg

Cafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei sefydlu yn 2011 gyda'r bwriad o gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, mae'r coleg yn darparu cefnogaeth annibynnol i sefydliadau addysg uwch drwy Gymru.

Disgrifiad,

Mae Iestyn Davies o gorff addysg bellach Colegau Cymru yn croesawu'r adroddiad

Wrth gyhoeddi'r adolygiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y byddai'r coleg yn chwarae rhan bwysig mewn galluogi i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.

Bellach mae'r grŵp adolygu, dan arweiniad Delyth Evans, wedi cyhoeddi nifer o argymhellion, sy'n cynnwys:

  • Ymestyn rôl y Coleg i fod yn gorff strategol cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer datblygu'r Gymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith;

  • Dylai'r Coleg ganolbwyntio ei negeseuon marchnata ar hyrwyddo'r Gymraeg fel sgil yn y gweithle, yn hytrach na marchnata'r Coleg fel corff ar wahân;

  • Dylai ganolbwyntio ar gefnogi ysgolion trwy ddatblygu deunyddiau marchnata at ddefnydd athrawon, disgyblion a rhieni;

  • Cefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg;

  • Ceisio cysylltu â disgyblion blwyddyn 9 a 10, cyn iddyn nhw ddechrau gwneud penderfyniadau am eu haddysg ôl-16.

Dywedodd Delyth Evans: "Rwyf yn gobeithio y bydd yr adroddiad a'r argymhellion o gymorth i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn y blynyddoedd i ddod."

Diolchodd Ms Williams am "adroddiad adeiladol", gan ddweud: "Af ati'n awr i edrych ar y canfyddiadau'n ofalus cyn ymateb yn llawn maes o law."

Ffynhonnell y llun, Rhys Llwyd / Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffred Francis yn aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn cefnogi "prif ergyd yr adroddiad" i ddatblygu cyfrifoldeb ond mae aelodau hefyd yn galw am "adnoddau teg i gyflawni'r gwaith".

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith y gallai'r datblygiadau "gynnig atebion" ar gyfer y sefyllfa bresennol o ddiffyg addysg Cymraeg yn y gweithle a diffyg adnoddau Cymraeg i ddisgyblion.

"Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heblaw am fod y llywodraeth yn rhoi i'r coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni'r gwaith.

"Gall ddod â'r meysydd hyn dan un to olygu fod y Coleg yn gallu creu cyrsiau arloesol newydd ar draws ffiniau traddodiadol i rymuso myfyrwyr gyda'r wybodaeth a sgiliau i roi hwb economaidd i Gymru."

Dywedodd Undeb y Myfyrwyr bod ei bod hi'n "hollbwysig" rhoi mwy o gyllid i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol os yw rôl y corff yn ehangu.