Llai o gleifion diabetes yn colli golwg yn sgîl sgrinio
- Cyhoeddwyd
Mae cyfran y bobl sy'n colli eu golwg oherwydd clefyd diabetes wedi haneru yng Nghymru mewn llai na degawd, medd gwaith ymchwil dylanwadol.
Daw'r gostyngiad yn dilyn cyflwyno prawf sgrinio sy'n caniatáu i arbenigwyr weld niwed yn llygaid unigolion sydd â diabetes cyn i unrhyw symptomau ddod i'r amlwg.
Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r canfyddiadau "dramatig" a gafodd ei cyhoeddi yn y British Medical Journal yn profi gwerth y profion sgrinio, gafodd eu harloesi yng Nghymru.
Mae tuedd i bobl sydd â diabetes i ddatblygu problemau gyda'u llygaid, ac yn ôl arbenigwyr, mae darganfod y nam cyn gynted ag y bo modd yn golygu fod triniaeth yn fwy effeithiol.
Mae'r rhaglen sgrinio retinopathi diabetig yn cael ei gynnig i bobl 12 oed a hŷn yn flynyddol.
Yn ôl yr Athro David Owens o Uned Ymchwil i Ddiabetes Cymru a Phrifysgol Abertawe, bwriad yr ymchwil oedd gweld a oedd y rhaglen sgrinio yn cael effaith bositif.
"Be 'dan ni wedi sylwi ydy 'dan ni wedi haneru rhif y bobl sydd yn cael ei registro efo blindness dros yr wyth mlynedd dwytha," meddai.
Mae'r ymchwil yn awgrymu bod 22 yn llai o unigolion wedi colli eu golwg yn ystod y cyfnod rhwng 2007 a 2015.
Fe all y prawf sgrinio newid bywydau pobl, meddai'r Athro Owens: "Os ydy rhywun yn colli golwg, dydy hynny ddim yn mynd i helpu nhw i fynd i weithio. Maen nhw'n fwy tebygol o ddisgyn, aros yn hwy yn yr ysbytai."
Ond mae canran o bobl sydd yn gymwys i gael y prawf ond sydd ddim yn cael ei sgrinio yn achos pryder, meddai.
"Mae'n ddrwg gen i ddweud fod 20% ddim yn troi allan i gael ei sgrinio, ac mewn ffordd mae'n rhaid i ni ffindio ffordd er mwyn cael nhw i ddod i mewn, i wneud yn siŵr bod nhw'n deall bod eisiau iddyn nhw gael eu sgrinio a'r benefits maen nhw yn cael trwy wneud hynny."