Tommo nôl ar yr awyr wedi ymchwiliad i sylwadau
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyflwynydd radio Andrew 'Tommo' Thomas yn dychwelyd i'w raglen ddyddiol ar Radio Cymru.
Daw hynny yn dilyn cyfnod oddi ar yr awyr wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i gwyn yn ei erbyn.
Roedd y gwyn yn deillio o sylwadau a wnaeth Tommo yn ystod Gŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog ar benwythnos 7 ac 8 Gorffennaf, ac nid unrhyw beth gafodd ei ddweud ar yr awyr.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Yn dilyn ymchwiliad mewnol, mae Tommo wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a Mlan i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra'n cyflwyno.
"Mae'r BBC yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad.
"Fe fydd Tommo yn dychwelyd i gyflwyno ei raglen ddyddiol yr wythnos nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017