Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn gadael

  • Cyhoeddwyd
sioned davies a dylan foster evansFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Athro Sioned Davies yn trosglwyddo'r awenau i Dr Dylan Foster Evans ddiwedd yr wythnos

Mae pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Sioned Davies yn rhoi'r gorau i'w swydd yr wythnos hon wedi dros 20 mlynedd.

Bydd yr Athro Davies yn cael ei holynu gan Dr Dylan Foster Evans, sydd yn ddirprwy bennaeth ar yr adran ar hyn o bryd.

O Sir Drefaldwyn yn wreiddiol, yr Athro Davies oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei phenodi i rôl Athro coleg ym mhwnc y Gymraeg.

Mae hi'n adnabyddus am ei gwaith ymchwil ar y Mabinogi, a bu hefyd yn gadeirydd tasglu'r llywodraeth ar ddyfodol addysg Gymraeg ail iaith.

'Braint o'r mwyaf'

Dywedodd yr Athro Davies fod arwain yr adran ers dros ddau ddegawd "wedi bod yn fraint o'r mwyaf".

"Rydw i'n gwybod y bydd yr Ysgol yn mynd o nerth ac edrychaf ymlaen, ar ôl treulio blwyddyn o waith ymchwil, at gyfrannu ymhellach at lwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd," meddai.

Bydd Dr Dylan Foster Evans yn dechrau fel y pennaeth newydd ar 1 Awst, a dywedodd nad oedd modd "gorbwysleisio effaith a dylanwad Sioned ar yr Ysgol ac ym meysydd iaith a llenyddiaeth y Gymraeg".

"Mae wedi arwain yr Ysgol gydag urddas, dycnwch a theyrngarwch diwyro ers dros dau ddegawd ac rwy'n gwybod yr hoffai'r rhai sydd wedi gweithio gyda hi, neu sydd wedi'i haddysgu ganddi, ddiolch iddi am ei harbenigedd, ei hamynedd, ei phroffesiynoldeb a'i chyfeillgarwch hael."