Ailedrych ar gynlluniau cerflun 'cylch haearn' Y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am oedi cyn codi cerflun o 'gylch haearn' ger Castell y Fflint.
Mae'r darn celf wedi hollti barn gan ei fod yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu hadeiladu gan Loegr wrth iddyn nhw goncro Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: "Rydym wedi gwrando, ac yn cydnabod pa mor gryf yw teimladau pobl ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell Y Fflint.
"Rydym yn teimlo ei fod yn iawn i ni oedi bellach, ac ailedrych ar y cynlluniau ar gyfer y cerflun.
"Gan gydweithio'n agos â phartneriaid lleol, byddwn yn parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer datblygiadau yn Fflint, gan gynnwys edrych eto ar y cyfleusterau i ymwelwyr."
Ymysg y beirniad roedd un AC Plaid Cymru, sy'n dweud bod y cerflun yn "sarhad ar y genedl".
Roedd corff treftadaeth Cadw, eisoes wedi dweud y byddai "penderfyniadau... fel y geiriau ar y cerflun yn adlewyrchu safbwyntiau lleol".
Mae'r prosiect £400,000 i fod yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru.
'Sarhad ar y genedl'
Y bwriad, yn ôl y datganiad gwreiddiol, yw nodi trosglwyddo coron Lloegr o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.
Ond i nifer, mae'n symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.
Ar Twitter, dolen allanol, dywedodd AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, bod "hyn yn sarhad ar y genedl".
Ar ei chyfri' hi, dolen allanol, dywedodd y gantores Cerys Matthews ei bod yn "cytuno y bydd adeiladu cylch haearn yn atgoffa cenedlaethau o blant Cymru o'u darostyngiad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017