Teulu dyn sydd ar goll yn 'ysu am wybodaeth'

  • Cyhoeddwyd
James CorfieldFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae teulu'r dyn 19 oed sydd wedi bod ar goll o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ers nos Lun wedi ymbilio ar y cyhoedd i'w helpu i ddarganfod eu mab.

Mewn datganiad dywedodd modryb James Corfield eu bod yn "ysu am wybodaeth" ac am "unrhyw ddarn bach o wybodaeth am ei leoliad".

Cafodd James Corfield ei weld ddiwethaf am tua hanner nos yng ngwesty'r Ceffyl Gwyn yn Llanfair ym Muallt.

Disgrifiad,

Apêl Uwcharolygydd Heddlu Dyfed Powys, Huw Meredith

Roedd wedi bod yn gwersylla gyda'i ffrindiau yn y Pentref Ieuenctid yn Llanelwedd.

"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r gwirfoddolwyr sy'n helpu i chwilio amdano.

"Ry'n ni'n gofyn i bobl edrych ar luniau James a cheisio cofio ble maen nhw wedi ei weld," meddai Gill Corfield.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd datganiad ei ddarllen gan Gill Corfield, modryb James Corfield, yn y sioe

Mae'r teulu wedi cadarnhau ei fod yn gwisgo crys-t glas Abercrombie & Fitch, jîns tywyll glas ac esgidiau swêd brown golau pan gafodd ei weld ddiwethaf.

Mae Uwcharolygydd Heddlu Dyfed Powys, Huw Meredith wedi dweud eu bod yn "gynyddol bryderus amdano" ac yn gofyn i bobl leol edrych yn eu gerddi, siediau ac adeiladau allanol eraill.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r chwilio am James Corfield yn parhau ddydd Mercher