Pryder pennaeth adran am y nifer sy'n astudio Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Sioned Davies

Mae pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd ar fin rhoi gorau i'w swydd, yn dweud ei bod yn pryderu am y niferoedd sydd yn astudio'r Gymraeg ar lefel uwch.

Mae llai o ddisgyblion wedi bod yn dewis astudio Cymraeg fel un o'u pynciau Lefel A ac mae hynny'n "drueni", meddai'r Athro Sioned Davies wrth raglen Newyddion 9.

"Mewn ffordd, efallai bod hynny yn adlewyrchu pa mor gryf mae pobl yn teimlo ynglŷn â'u Cymraeg, hynny yw dydyn nhw ddim yn gorfod astudio'r Gymraeg fel pwnc," meddai.

"Maen nhw yn gallu astudio pethau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywedodd hefyd bod pryderon o fewn adrannau Cymraeg ynglŷn â thoriadau ym maes addysg uwch ac effaith Brexit ond dyw hi ddim yn credu y bydd y pwnc yn stopio cael ei ddysgu ym mhrifysgolion Cymru.

Cyfnod 'cyffrous'

"Pan mae niferoedd myfyrwyr yn mynd ar i lawr yna wrth gwrs mae pobl yn edrych ar faint o staff sydd ym mhob adran," meddai.

"'Da ni i gyd yn cefnogi ein gilydd ac yn sicr 'dw i ddim yn rhagweld y bydd unrhyw brifysgol yn cael gwared ar y Gymraeg."

Cydnabod bod denu pobl i astudio'r pwnc yn her mae Dr Dylan Foster Evans, fydd yn olynu Sioned Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Dylan Foster Evans yn obeithiol am ddyfodol y Gymraeg

Ond mae'n dweud bod nawr yn gyfnod cyffrous i astudio'r pwnc am fod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Ar un lefel mae'n edrych yn uchelgeisiol tu hwnt," meddai.

"Ond os ydych chi yn meddwl bod poblogaeth Cymru yn mynd i dyfu, 'dy o 'mond yn cynyddu ryw 5% falle, i ryw chwarter poblogaeth o bumed ran.

"Felly dydy hi ddim yn gynnydd enfawr yn y ffordd yna.

"Ond wrth gwrs mi fyddai'n chwyldroadol oherwydd mae'r siaradwyr newydd yna 'da ni am eu creu yn mynd i ddod o gefndiroedd gwahanol i'r siaradwyr presennol.

"Felly dyma'r amser mewn gwirionedd i gael myfyrwyr i mewn sydd yn gallu bod yn rhan o hynny, gwthio hynny, siapio hynny a hefyd dadansoddi hynny."