Andrews: Rhaid ystyried gwahanu Llafur Cymru dros Brexit

  • Cyhoeddwyd
Corbyn a Carwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leighton Andrews wedi bod yn feirniadol o arweinyddiaeth Jeremy Corbyn

Dylai Llafur Cymru ystyried gwahanu o'r blaid Brydeinig os yw Llafur y DU yn newid ei safbwynt ar Brexit, yn ôl cyn weinidog.

Dywedodd Leighton Andrews, sydd wedi bod yn feirniadol o Jeremy Corbyn ers tro, fod safbwynt y blaid Brydeinig ar Brexit wedi bod "ar chwâl" yn ddiweddar.

Mae Llafur y DU ynghanol trafodaeth fewnol ar beth sydd ei angen ar y DU o broses Brexit.

Dywedodd Mr Andrews bod erthygl gan aelod o fainc flaen y blaid, oedd yn gwrthod aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb dollau, yn "hurt".

Model Norwyaidd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi argymell perthynas debyg i un Norwy gyda'r Undeb Ewropeaidd, lle byddai'r DU yn cytuno i rai rhannau o'r UE fel rhyddid pobl i symud, ac felly yn parhau'n rhan o'r farchnad sengl.

Ond dywedodd Barry Gardiner, llefarydd y blaid ar fasnachu, y byddai trefniant debyg i Norwy yn golygu bod Prydain yn wladwriaeth gaeth, gan ddadlau dros adael y farchnad sengl a'r undeb dollau.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Jeremy Corbyn y dylai Prydain adael y farchnad sengl, ac yna dywedodd y canghellor cysgodol, John McDonnell, bod Mr Jones a Mr Corbyn yn dweud yr un peth ar Brexit.

Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leighton Andrews yn weinidog addysg yn llywodraeth Lafur Cymru

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement y BBC, dywedodd Mr Andrews: "Mewn gwirionedd os nad yw Llafur y DU yn gallu dod at ei gilydd, ar y pwynt mwyaf elfennol yma, yna dwi'n meddwl bod Llafur ar lefel Brydeinig mewn sefyllfa wael iawn.

"Yn yr achos yna, wedi llwyddiant Llafur Cymru, yn enwedig yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, mewn etholiadau Cynulliad, a'r ffaith bod Llafur cymru yn parhau mewn grym, dwi'n meddwl bod achos cryf o blaid cymryd camau i amddiffyn Llafur Cymru, ei hunaniaeth a'i rôl."

'Afresymol'

Ychwanegodd fod y blaid Brydeinig wedi bod yn symud yn ôl at safbwynt debyg i un Llafur Cymru dros y dyddiau diwethaf, a bod hynny'n "newyddion da".

Ond pan ofynnwyd iddo a ddylai Llafur Cymru ystyried gwahanu petai'r safbwynt yn newid eto, dywedodd: "Yn sicr. Heb os."

"Y realiti yw bod gwahaniaeth rhwng y rhannau o Lafur sydd â phrofiad o lywodraeth a rheoli pethau, a dyna'r achos gyda llywodraeth Lafur Cymru, a'r rhai sy'n gwrthwynebu sydd â diffyg profiad o lywodraeth ond hefyd ychydig iawn o brofiad o fod yn wrthblaid."

Dywedodd ei bod yn "glir iawn nad yw'r rhan helaeth o bleidleiswyr ac aelodau Llafur o blaid Brexit caled" a'i fod yn "afresymol" i Lafur ymddangos i gefnogi syniad o'r fath.