Cynghorwyr Ynys Môn yn cymeradwyo cynllun tai
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi pleidleisio o blaid cynllun dadleuol allai arwain at godi 7,000 o dai yno ac yng Ngwynedd.
Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd o drwch blewyn ddydd Gwener.
Bydd y ddogfen yn gosod cynsail ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio am y 15 mlynedd nesaf.
Ond mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd traddodiadol.
'Amddiffyn yr iaith'
Bydd y cynllun nawr yn dod i rym yn dilyn wedi iddo gael ei gymeradwyo gan gynghorwyr Môn, a hynny o 21 pleidlais i bump, gydag un cynghorydd yn atal ei bleidlais.
Roedd y bleidlais yng Ngwynedd yn un cyfartal, ond cafodd y cynnig ei basio yn dilyn cefnogaeth gan gadeirydd y cyngor.
Mae'r cynllun yn cynnwys rhai tai sydd eisoes wedi'u hadeiladu neu sydd wedi cael caniatâd cynllunio.
Mae arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi Huws, wedi croesawu penderfyniad y ddwy sir i fabwysiadu'r cynllun ar y cyd.
"Credaf yn gryf y bydd y cynllun datblygu lleol ar y cyd newydd yn darparu fframwaith cadarn i Ynys Môn ar gyfer polisi cynllunio a defnydd tir i'r dyfodol," meddai.
"Mae ein hynys yn wynebu nifer o heriau mawr o ran cynllunio dros y degawd nesaf, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu prosiectau seilwaith mawr fel Wylfa Newydd.
"Mae'n rhaid i ni fod yn barod am newidiadau sylweddol yn yr economi leol ac mae darparu tir i greu swyddi newydd a thai fforddiadwy ar gyfer ein pobl ifanc, yn y llefydd iawn, yn hanfodol.
"Bydd hyn yn helpu cyflawni ein nod o greu cymunedau lleol cryf a chynaliadwy ac yn helpu i amddiffyn yr iaith Gymraeg."
'Parhau i brotestio'
Roedd protest fechan y tu allan i swyddfeydd y cyngor yn Llangefni cyn y bleidlais fore Llun, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y bydd y mudiad yn parhau i brotestio yn erbyn y "tai diangen hyn".
"Mae'r canlyniad heddiw yn siomedig gan y bu cyfle gan gynghorwyr i anfon neges glir i'r llywodraeth ym Mae Caerdydd eu bod am gael cynllun sy'n adlewyrchu gwir anghenion lleol," meddai Menna Machreth o'r gymdeithas.
"Bydd rhaid i ni wrthwynebu a phrotestio yn erbyn y tai diangen hyn fesul datblygiad nawr.
"Yn sicr, dylai'r broses hon ein hatgoffa o'r angen i weddnewid y system eiddo a chynllunio fel ei bod yn llesol i'r iaith, a hynny [ar draws] Cymru gyfan.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o'r wlad, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y llywodraeth yn eu polisïau yn sicrhau bod y system yn hybu'r iaith ym mhob un rhan o'r wlad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2017