Teyrngedau i James Corfield aeth ar goll o'r Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
James CorfieldFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i James Corfield, y dyn ifanc a ddiflannodd yn ystod y Sioe Amaethyddol Frenhinol wythnos ddiwethaf.

Brynhawn Sul, cafwyd cadarnhad gan Dîm Achub Mynydd Aberhonddu fod corff wedi'i ddarganfod mewn pwll dwfn yn Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt.

Wrth gyhoeddi'r neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Sul dywedodd y tîm eu bod yn meddwl ac yn gweddïo am deulu a ffrindiau James Corfield.

Yn gynharach ddydd Sul dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod corff wedi cael ei ddarganfod yn Llanfair-ym-Muallt ond nad oedd wedi ei adnabod yn swyddogol.

'Wedi tristáu'

Doedd neb wedi gweld Mr Corfield ers iddo adael tafarn Y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod oriau mân fore Mawrth, Gorffennaf 25.

Gydol wythnos y Sioe Fawr bu plismyn, timau achub a gwirfoddolwyr yn chwilio am y gwr ifanc oedd yn hanu o Drefaldwyn.

Dywed yr heddlu fod ei deulu yn cael cefnogaeth swyddogion arbennig ers cael gwybod am y darganfyddiad.

Ffynhonnell y llun, CFfI Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Gydol y chwilio cafodd llun o James Corfield yn ei ddillad criced ei ddefnyddio ar bosteri yn Llanfair-ym-Muallt a Llanwelwedd

Fore Llun, fe gyhoeddodd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru ddatganiad ar y cyd, yn dweud eu bod "wedi tristáu wrth glywed am y newyddion bod corff wedi ei ddarganfod wrth chwilio am James Corfield".

"Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r gwasanaethau argyfwng ac i gynnig cefnogaeth i'r teulu trwy'r amser anodd yma."

'Cyfeillgar, cymwynasgar a gweithgar'

Wrth ymateb dywedodd AC Trefaldwyn Russell George fod "dod o hyd i'r corff yn newyddion trist ofnadwy".

Ychwanegodd: "Mae James a'i deulu yn adnabyddus yn yr ardal ac mae'n meddyliau gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn."

Ffynhonnell y llun, Sally Williams
Disgrifiad o’r llun,

Torf wedi ymgasglu yn Nhrefaldwyn i ddangos cefnogaeth i deulu James Corfield

Roedd James Corfield yn chwaraewr criced amryddawn i glwb Trefaldwyn. Mewn teyrnged iddo, dywedodd y clwb fod James Corfield "wedi cael tymor eithriadol y llynedd, a welodd e'n cipio'r cwpanau am fatio a bowlio".

"Yn 2016 fe enillodd e hefyd y wobr am Chwaraewyr Ifanc y Flwyddyn yng ail gynghrair Sir Amwythig."

Ychwanegodd y datganiad bod "James yn ddyn cyfeillgar, cymwynasgar a gweithgar", a bod y newyddion "wedi effeithio'n fawr arnon ni".

Ddydd Sadwrn ymgasglodd cannoedd o bobl yn Nhrefaldwyn i roi cefnogaeth i deulu James Corfield.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod am ddiolch i'r cyhoedd am y gefnogaeth gydol yr wythnos.