Cartref newydd i'r Gorlan

  • Cyhoeddwyd
Y GorlanFfynhonnell y llun, Arfon Jones

Bydd Y Gorlan yn cael cartref newydd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Ers blynydoedd bu'r gorlan goffi yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr Cristnogol, ac yn darparu gwasanaeth arlwyo a bugeilio i wersyllwyr ifanc yr Eisteddfod.

Yn gynharach ym mis Gorffennaf cyhoeddodd trefnwyr y Brifwyl na fyddai'r Gorlan yn rhan o'r trefniadau ar gyfer Maes B eleni.

Ond, ar yr unfed awr a'r ddeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi camu i'r adwy gan gadarnhau y bydd y gwasanaeth ar gael ar safle gwersylla'r mudiad ar Fferm Penrhos sydd dafliad carreg o faes yr Eisteddfod.

Rhys Llwyd ydy Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:

"'Dyn ni wrth ein boddau bod gwirfoddolwyr Y Gorlan wedi cynnig eu gwasanaeth i ni eleni ar ein safle sy' lai na milltir o faes y 'Steddfod ei hun. Yn sicr, bydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o ŵyl ar y fferm ac yn ychwanegu at brofiad y rhai fydd yn aros gyda ni ac yn dod i'n gigs.

"Cwmnïau lleol fydd yn darparu y bwyd cynnes gyda'r nos, a bydd y Gorlan yn darparu rhywbeth gwahanol. 'Dyn ni'n gweithio ar y cyd gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc yn barod, nhw fydd yn rhedeg y bar, felly mae partneriaeth gyda mudiad gwirfoddol arall yn drefniant addas iawn. "

Ffynhonnell y llun, Arfon Jones

Mae Steffan Morris o bwyllgor Y Gorlan yn dweud y bydd rhywfaint o newidiadau i'r gwasanaeth fydd ar gael:

"Ar ôl blynyddoedd o gyd-weithio hapus gyda Maes B mae'n destun calondid y bydd gwaith y Gorlan yn parhau mewn lleoliad gwahanol.

"Mi fydd natur y gwasanaeth byddwn ni'n ei gynnig yn newid rhywfaint, ond yr ethos yn aros yr un peth - mi fyddwn ni'n syml iawn yn rhedeg bar te a choffi 'cyfrannu i rannu', estyn gofal bugeiliol a chwilio am ffyrdd ymarferol i roi cymorth i bobl yn ystod yr wythnos.

"Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at yr ŵyl ac at ofalu am y bobl sy'n mynd i'r gigs a'r maes gwersylla ar Fferm Penrhos."