Cadarnhau timau a strwythur newydd i'r Pro12

  • Cyhoeddwyd
Cheetahs a Southern kingsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cheetahs a'r Southern Kings yn ymuno ar ôl colli eu lle yng nghynghrair Super Rugby

Mae'r Pro12 wedi cadarnhau y bydd y gynghrair yn ehangu ac yn newid ei strwythur ar gyfer y tymor nesa'.

Bydd 14 o dimau yn y gystadleuaeth, gyda'r Cheetahs a'r Kings o Dde Affrica yn ymuno.

Fe fydd 'na hefyd ddwy adran yn lle un, gyda'r Gweilch a'r Gleision yn Adran A, a'r Scarlets a'r Dreigiau yn Adran B.

Bydd gemau cyntaf y gynghrair ar ei newydd wedd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Medi.

Bydd y timau yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref ac yn wynebu timau'r adran arall o leiaf unwaith.

Fe fydd pob clwb hefyd yn chwarae gemau darbi, sy'n golygu 21 gêm y tymor.

Bydd enillwyr y ddwy adran yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol, gyda'r timau sy'n gorffen yn ail ac yn drydydd yn chwarae gêm ail gyfle ar gyfer y ddau safle arall yn y rownd gynderfynol.

Fe fydd yr adrannau yn newid yn flynyddol ar sail perfformiad y tymor blaenorol.

Mae'n debyg y bydd y gynghrair yn derbyn £6m y tymor gan Undeb Rygbi De Affrica ac mewn arian darlledu yn sgil y cytundeb chwe blynedd i sefydlu'r drefn newydd.

Dadansoddiad Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies:

Dyma'r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol ers i'r gystadleuaeth groesawu dau dîm o'r Eidal 'nôl yn 2010.

Ar yr olwg gyntaf mae presenoldeb dau dîm o Dde Affrica'n ymddangos yn gyffrous, yn gam positif ac yn dangos bod swyddogion y gystadleuaeth yn barod i edrych ar draws y byd er mwyn sicrhau fod cynnyrch y gystadleuaeth yn apelgar, yn ffres ac yn bwysicach, yn creu mwy o arian i'r timau - er bod y cynnydd (oddeutu £36m dros chwe thymor) yn dal yn bitw o'i gymharu â phŵer ariannol clybiau Ffrainc a Lloegr.

Ydy, mae esblygu a dangos gweledigaeth yn bwysig ond dwi'n poeni faint o wir ysfa sydd 'na i ehangu'r gystadleuaeth a chynnwys timau sy'n chware ben arall y byd mewn hemisffer gwahanol.

Falle bydd trip i Dde Affrica yn ennyn diddordeb ambell gefnogwr brwd ond faint o gysylltiad a gwir gariad fydd 'na at gystadleuaeth allai ehangu ymhellach y flwyddyn nesaf i gynnwys tîm o Ogledd America?

Erbyn hynny gallai'r trefnwyr newid yr enw o'r Pro14 i'r World Series!