'Angen amddiffyn buddion cleifion' yn sgil Brexit
- Cyhoeddwyd
![Ysbyty](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FD4C/production/_97144846_wardysbyty2.jpg)
Mae cyngres o sefydliadau yn y maes iechyd wedi galw ar y llywodraeth i amddiffyn buddion cleifion yn nhrafodaethau Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae cyngres iechyd Brexit, sy'n cynnwys Cyd-ffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ymchwil meddygol, sefydliadau iechyd cyhoeddus a chleifion, wedi rhybuddio bydd cleifion yn dioddef oni bai bod trafodwyr yn sicrhau bod ymchwil meddygol a mynediad at feddyginiaethau newydd yn derbyn y sylw mae'n ei haeddu.
Dywedodd cyd-gadeirydd y Gynghrair Niall Dickson: "Mae cyfleoedd gwych ond hefyd peryglon mawr yn y trafodaethau hyn.
"Mae cleifion yn mynd i fod ar eu colled os nad ydyn ni'n gallu cydweithio mewn astudiaethau ymchwil feddygol o bwys.
"Mae hefyd yn hanfodol bod yna ymrwymiad cadarn ar bob ochr i gydlynu ymateb i fygythiadau i iechyd cyhoeddus."
'Blaenoriaethau'
Mae'r Gyngres hefyd yn galw ar hawl dinasyddion y UE i dderbyn gofal iechyd yn y DU i barhau.
Mae'r Gyngres wedi nodi pum blaenoriaeth ar gyfer trafodwyr ble fydd angen cydweithio rhwng y DU a gweddill y UE:
Sicrhau lefel uchaf o waith ymchwil ac arloesi cydweithredu;
Rheoleiddio'r camau er lles cleifion ac iechyd y boblogaeth;
Cadw trefniadau gofal iechyd dwyochrog;
Cydlynu cadarn ar iechyd a lles y cyhoedd;
Ymrwymiad ariannu cryf i'r sectorau iechyd ac iechyd y cyhoeddus.
![line break](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/66933000/gif/_66933045_line2.gif)
![Niall Dickson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/14B6C/production/_97144848_nialldickson.jpg)
Niall Dickson ydy cyd-gadeirydd y gynghrair feddygol
Ychwanegodd Mr Dickson: "Rydym yn gobeithio bydd cyhoeddi'r blaenoriaethau yn helpu'r llywodraeth sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion ac ar gyfer gofal iechyd ar draws y DU.
"Mae llawer iawn o arbenigedd o fewn y Gynghrair, ac rydym yn annog y llywodraeth i wneud defnydd da o hyn i wneud yn siŵr nad yw'r materion hanfodol hyn sy'n effeithio ar iechyd a lles pawb yn y DU yn cael eu hanghofio ochr yn ochr â'r holl faterion eraill yn y trafodaethau."