Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn ymweld â Japan
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn trafod busnes ar ymweliad â Japan.
Yn ogystal â thrafod Brexit, bydd Mr Cairns yn cynnal trafodaethau gyda chwmni Hitachi, sy'n berchen y cwmni sy'n cynllunio i godi atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i gyflogwyr o Japan.
Mewn datganiad, dywedodd Swyddfa Cymru y bydd Mr Cairns yn "cwrdd â swyddogion o Panasonic, Sony a Toyota i'w sicrhau y bydd Cymru yn parhau i fod yn wlad uchelgeisiol sy'n edrych tuag allan ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd".
Mae gan y tri chwmni ffatrïoedd yng Nghymru - Panasonic yng Nghaerdydd, Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr a Toyota ar Lannau Dyfrdwy.
'Ar agor i fusnesau'
Dywedodd Mr Cairns: "Roeddwn i am ei gwneud yn flaenoriaeth i ymweld â phartner masnachu pwysig, ac i yrru'r neges glir bod y DU yn - ac yn parhau i fod - ar agor i fusnesau.
"Yn dilyn ymadawiad y DU [o'r UE] ry'n ni am barhau i fod yn rym dylanwadol ar lwyfan y byd, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sicrhau diogelwch a llewyrch."
Fe ddaw'r ymadawiad wedi i Japan a'r Undeb Ewropeaidd gyrraedd cytundeb ar fasnach rydd fis diwethaf.
Alun Cairns, oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd ar ei raglen fore Sul ar BBC Radio Cymru.