Gwasanaeth coffa i James Corfield yn Nhrefaldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth wedi ei gynnal er cof am ddyn ifanc gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl mynd ar goll o'r Sioe Frenhinol.
Cafodd corff James Corfield, 19, ei ddarganfod yn Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Sul.
Nid oedd wedi ei weld ers iddo adael tafarn y Ceffyl Gwyn yn y dref yn oriau man fore Mawrth diwethaf.
Mae'r trefnwyr bellach wedi dweud y byddan nhw'n cydlynu adolygiad i wella diogelwch i bobl ifanc.
Dechreuodd y gwasanaethau brys chwilio am Mr Corfield, oedd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Maldwyn, pan fethodd â chyfarfod ei deulu ar faes y sioe.
Ddydd Mawrth, daeth tua 200 o bobl i Drefaldwyn i wrando ar weddïau a cherddi er cof amdano.
Roedd hefyd cymeradwyaeth gan y dorf iddo.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru nawr yn dweud y byddan nhw'n gweithio gyda'r heddlu a'r cyngor i "ddarganfod pa wersi all gael eu dysgu a gwelliannau i ddigwyddiadau'r dyfodol".
Dywedodd y cadeirydd, John Davies: "Mae colli un bywyd yn ormod ac felly mae'n iawn i amddiffyn diogelwch pawb sy'n ymweld â'r Sioe Frenhinol, ond yn enwedig pobl ifanc, sy'n dod yn eu miloedd bob blwyddyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017