Pryder am symud clinigau arbenigol o Lanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Feddygol Llanbedr Pont Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y clinigau arbenigol yng Nghanolfan Feddygol Llanbedr Pont Steffan i ben ar 1 Gorffennaf

Mae 'na bryderon am wasanaethau iechyd yn ardal Llanbedr Pont Steffan wedi i glinigau arbenigol ddod i ben yno.

Tan ddechrau Gorffennaf, roedd clinigau podiatreg, paediatreg a therapi lleferydd yn cael eu cynnal yng nghanolfan iechyd y dre'.

Ond fe benderfynodd y bwrdd iechyd beidio adnewyddu cytundeb i rentu ystafell yn y feddygfa, gan olygu bod dim cartref i'r clinigau.

Mae'r Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud mai trefniant dros dro ydy symud y clinigau a'u bod yn ceisio dod â nhw 'nôl i Lambed.

Disgrifiad,

Symud clinigau: Barn pobl Llanbedr Pont Steffan

Daeth gwasanaethau therapi iaith a lleferydd a chlinigau paediatreg, methiant y galon, deintyddiaeth gymunedol a phodiatreg yng Nghanolfan Feddygol Llanbedr Pont Steffan i ben ar 1 Gorffennaf eleni.

Yn ôl y bwrdd iechyd, oedd hynny'n "angenrheidiol gan nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn medru ymrwymo i gytundeb prydles hirdymor newydd" am ystafell.

Mae rhai yn lleol yn galw am eglurder am ymdrechion y bwrdd iechyd i ddychwelyd y gwasanaethau i'r dref.

"Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd fod yn glir a rhoi rhyw fath o plan mas i ni i ddweud pryd byddan nhw'n dod 'nôl", meddai'r cynghorydd tref, Elin T Jones.

"Mae pobl yn dibynnu ar y clinigau 'ma, maen nhw'n glinigau pwysig, pwysig iawn ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn glir iawn pryd maen nhw'n dod 'nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin T Jones yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Tref Llanbed

Pryder rhai pobl yn yr ardal yw bydd y gwasanaethau'n cael eu symud i drefi eraill fel Tregaron, Aberaeron neu Aberteifi yn y dyfodol.

Dywedodd AS Ceredigion, Ben Lake, ei fod yn "ffyddiog" bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ac yn trafod gyda chyrff eraill ddod â'r clinigau'n ôl i Lambed.

Ond rhybuddiodd bod angen "sicrhau bod hynny'n digwydd yn sydyn" a bod dim "llusgo traed".

'Datblygu gwasanaethau integredig'

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Roedd y newidiadau hyn yn angenrheidiol gan nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn medru ymrwymo i gytundeb prydles hirdymor newydd i barhau i ddarparu'r gwasanaethau o safle'r feddygfa, a hynny am y byddai'r cam hwn wedi gwrthdaro â chynlluniau sydd ar y gweill i ddatblygu gwasanaethau integredig i gleifion.

"Rydym wedi cysylltu â'r cleifion sy'n cael triniaeth yn y clinigau hyn ar hyn o bryd ac wedi cynnig gwasanaethau ar safleoedd eraill o fewn Hywel Dda".

Ychwanegodd: "Mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu rhoi diweddariad arall i gleifion ym mis Awst, a bydd yn hysbysu defnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol o'r datblygiadau diweddaraf."